Sir Benfro yw Rhif 1 yng Nghymru ar gyfer Pwyntiau Gwefru EV
Pembrokeshire is Number 1 in Wales for EV Charging Points
Mae Sir Benfro yn parhau i fod yn rhif un yng Nghymru ac yn yr 20 y cant uchaf yn y DU am nifer y pwyntiau gwefru cerbydau EV, yn ôl ffigyrau swyddogol.
Mae data'r Adran Drafnidiaeth o fis Gorffennaf 2023 yn dangos bod 172 o bwyntiau gwefru cerbydau EV cyhoeddus ledled Sir Benfro.
Mae Cyngor Sir Penfro wedi bod yn gosod pwyntiau gwefru ceir trydan dros nifer o flynyddoedd, yn bennaf mewn meysydd parcio oddi ar y stryd.
Mae'r Cyngor hefyd wedi bod yn gweithio ar y cyd ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i ddarparu mannau gwefru EV yng nghyfleusterau parcio'r Parc Cenedlaethol.
Mae'r pwyntiau gwefru EV er budd trigolion ac ymwelwyr fel rhan o'r newid i ddyfodol carbon isel.
Mae'r gwefrwyr hefyd yn anelu at ddiwallu anghenion cymunedau drwy ddarparu hybiau gwefru ar gyfer y preswylwyr hynny nad oes ganddynt barcio oddi ar y stryd ar gyfer gwefru eu ceir.
O ystyried diwydiant twristiaeth sefydledig a hanfodol Sir Benfro, mae'r prosiect hefyd yn galluogi'r sir i hyrwyddo'r cysyniad o eco-dwristiaeth i ymwelwyr a chefnogi ymwelwyr â cherbydau trydan i'r dyfodol.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet gwasanaethau Trigolion: "Mae'n wych gweld ein bod yn arwain y ffordd yn Sir Benfro ac rwy'n cydnabod yr ymdrech tîm aruthrol a wnaed gan swyddogion i gyflawni hyn.
"Rwy'n falch ein bod ni wedi gallu cyflwyno pwyntiau gwefru EV yn sylweddol i gyfrannu tuag at ein dyhead am system drafnidiaeth sero net, gan weithio'n agos gydag Awdurdod y Parc."
Ychwanegodd James Parkin, Cyfarwyddwr Natur a Thwristiaeth, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: "Mae lle Sir Benfro ar frig y rhestr hon yn dyst i'r gwaith partneriaeth rhwng y Cyngor Sir ac Awdurdod y Parc, gan gyfuno adnoddau ac arbenigedd i ddarparu nifer cynyddol o bwyntiau gwefru EV i'w defnyddio gan gymunedau, ymwelwyr a busnesau lleol fel ei gilydd.
"Mae ein hymgyrch ar y cyd i wella argaeledd y seilwaith pwysig hwn hefyd yn dangos yr ymrwymiad i gyrraedd targedau sero net ar gyfer Sir Benfro, yn ei dro, gan wneud y sir yn lle glanach, gwyrddach a mwy llewyrchus i fyw, gweithio ac ymweld ag ef."
Mae lleoliadau gwefrwyr EV a chyfarwyddiadau ar eu defnyddio ar gael ar wefan Cyngor Sir Penfro.