Dysgwyr Sir Benfro yn dathlu Canlyniadau TGAU
Pembrokeshire learners celebrate GCSE Results
Mae Cyngor Sir Penfro yn falch iawn o longyfarch pob dysgwr ar ei gyflawniadau yn y cymwysterau TGAU a galwedigaethol eleni.
Er gwaethaf yr heriau a wynebwyd dros yr ychydig flynyddoedd academaidd diwethaf, mae pob dysgwr wedi dangos gwytnwch, ymroddiad a chyflawniad academaidd anhygoel.
Mae nifer o ddysgwyr ar draws y sir wedi sicrhau'r graddau uchaf eleni ac mae hyn i'w ganmol.
Mae dysgwyr wedi cyflawni ar draws ystod eang o bynciau, gan arddangos eu doniau amrywiol a'u gwaith caled ar draws ystod o gymwysterau TGAU a galwedigaethol. Mae dysgwyr wedi profi llwyddiant yn sgil y gefnogaeth ddiwyro maent wedi’i chael gan staff ysgol, rhieni a'n cymuned ehangach.
Dywedodd y Cynghorydd Guy Woodham, Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg: “Rydym yn falch o’r hyn mae ein dysgwyr wedi’i gyflawni. Mae eu gwaith caled a'u dyfalbarhad wedi talu ar ei ganfed. Mae ein dysgwyr wedi dangos ymrwymiad a gwytnwch.
“Mae'r canlyniadau hyn yn adlewyrchu eu hymroddiad a'r gefnogaeth maen nhw wedi’i chael gan ein staff ymroddedig a'u teuluoedd. Wrth i'n dysgwyr symud ymlaen i gam nesaf eu taith addysgol, boed hynny'n addysg bellach, prentisiaethau, neu ymuno â'r gweithlu, dymunwn lwyddiant parhaus a boddhad iddyn nhw yn eu holl ymdrechion yn y dyfodol.”
Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Steven Richards-Downes, “Wrth i'n dysgwyr ddathlu eu cyflawniadau, rydym hefyd yn edrych ymlaen at y cyfleoedd cyffrous sydd o'u blaenau. Mae Cyngor Sir Penfro wedi ymrwymo i gefnogi dysgwyr yn eu camau nesaf, p'un a ydynt yn dewis dilyn addysg bellach, prentisiaethau, neu ymuno â'r gweithlu. Mae amrywiaeth o adnoddau a rhaglenni wedi'u cynllunio i helpu dysgwyr i archwilio’r hyn sydd o ddiddordeb iddyn nhw a chyflawni eu targedau gyrfaol.”
Mae amrywiaeth o gyfleoedd ar gael i helpu dysgwyr gyda'u llwybrau gyrfa yn y dyfodol. Mae dosbarthiadau chweched lleol a Choleg Sir Benfro yn darparu amrywiaeth o gyrsiau a chymwysterau i helpu dysgwyr i barhau â'u taith academaidd.
Caiff dysgwyr eu hannog hefyd i ystyried prentisiaethau, sy'n cynnig profiad ymarferol a'r cyfle i ennill cyflog wrth ddysgu. Mae Gyrfa Cymru ar gael i ddarparu cymorth a chyngor personol, gan helpu dysgwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol.