Canolfan Ddysgu Sir Benfro: Adeiladu ar gryfderau ac ysgogi gwelliant cyflym
Pembrokeshire Learning Centre: Building on strengths and driving rapid improvement
Mae Cyngor Sir Penfro yn cydnabod canlyniad arolygiad diweddar Estyn o Ganolfan Ddysgu Sir Benfro ac yn derbyn casgliadau'r arolygwyr.
Mae'r cyngor wedi ymrwymo'n llwyr i fynd i'r afael â'r argymhellion ac ysgogi gwelliant yn ddi-oed.
Mae'n ofynnol i'r awdurdod lleol a'r ysgol gyflwyno cynllun gweithredu manwl i Estyn erbyn 5 Chwefror 2026, gan nodi sut y bydd pob argymhelliad yn cael ei gyflawni.
Mae gwaith ar y cynllun hwn yn mynd rhagddo'n dda, ac mae nifer o gamau gweithredu arwyddocaol eisoes wedi'u rhoi ar waith, gan gynnwys:
- Staffio ychwanegol ar bob lefel ar draws Canolfan Ddysgu Sir Benfro i gryfhau arweinyddiaeth a chefnogaeth yn yr ystafell ddosbarth.
- Cynllunio cyflym i fynd i'r afael â phroblemau cyflwr y safle a amlygwyd yn yr adroddiad, gan sicrhau amgylcheddau dysgu diogel ac addas at y diben.
- Cryfhau llywodraethu drwy benodi aelodau ychwanegol i'r pwyllgor rheoli, gan ddod ag arbenigedd a her i gefnogi gwelliant.
Mae'r camau uniongyrchol hyn yn adlewyrchu'r penderfyniad i ddarparu amgylchedd diogel a meithringar i ddisgyblion ac addysgu o ansawdd uchel sy'n diwallu eu hanghenion.
Mae'r cyngor yn hyderus y gellir gwneud y gwelliannau angenrheidiol yn gyflym ac yn effeithiol, ac yn edrych ymlaen at ddangos y cynnydd hwn i Estyn yn ystod eu hymweliadau monitro.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, y Cynghorydd Guy Woodham: “Ein blaenoriaeth yw lles a llwyddiant pob disgybl.
“Rydym wedi gweithredu’n gyflym i gryfhau arweinyddiaeth, gwella cyfleusterau a gwella llywodraethu. Rydym wedi ymrwymo i gydweithio'n agos ag Estyn a'n partneriaid i sicrhau bod Canolfan Ddysgu Sir Benfro yn cyflawni'r safonau uchel y mae ein dysgwyr yn eu haeddu.”
Er gwaethaf yr heriau a nodwyd, cydnabu Estyn sawl cryfder pwysig yng Nghanolfan Ddysgu Sir Benfro:
- Mae arweinwyr yn mynegi gweledigaeth glir sy'n blaenoriaethu lles disgyblion, wedi'i hategu gan ddull sy'n ystyriol o drawma.
- Mae llawer o ddisgyblion sy'n mynychu'n rheolaidd yn nodi eu bod yn teimlo'n ddiogel oherwydd perthnasoedd cryf rhwng staff a disgyblion.
- Mae'r pwyllgor rheoli yn dod ag ystod eang o arbenigedd a sgiliau perthnasol.
- Mae’r cynnig cymwysterau i ddisgyblion hŷn wedi cryfhau ers yr arolygiad diwethaf, gan gefnogi disgyblion yn effeithiol i symud ymlaen i gamau nesaf addas mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.
Mae’r cryfderau hyn yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer gwelliant ac yn dangos ymrwymiad staff ac arweinwyr i gefnogi lles a llwyddiant disgyblion yn y dyfodol.
Bydd y cyngor yn parhau i roi gwybodaeth i rieni, gofalwyr a'r gymuned ehangach drwy ddiweddariadau rheolaidd a digwyddiadau ymgysylltu.
Cyhoeddir rhagor o fanylion am y cynllun gweithredu ôl-arolygiad ar wefan Canolfan Ddysgu Sir Benfro yn yr wythnosau nesaf.