Partneriaeth Sir Benfro ar y rhestr fer am wobr Gyrfa Cymru
Pembrokeshire partnership shortlisted for Careers Wales award
Mae partneriaeth sy'n tynnu sylw at yrfaoedd mewn gofal cymdeithasol gydag ysgolion uwchradd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol.
Mae Rhaglen Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (SCWWDP) Sir Benfro gyda Gofalwn Cymru wedi cael ei gydnabod gan Wobrau Partner Gwerthfawr Gyrfa Cymru yn y categori Perthynas Barhaus Orau gydag Ysgol.
Mae Leanne McFarland o WeCare Wales a Diana O'Sullivan o Gyngor Sir Penfro wedi cyrraedd y rhestr fer diolch i'w gwaith yn rhoi cymorth gyrfaoedd i ddisgyblion mewn ysgolion lleol, gan gynnwys ysgol haf i fyfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Ysgol Uwchradd Hwlffordd yn 2022 a 2023.
Fe wnaeth yr ysgol haf ddarparu sesiynau rhyngweithiol wnaeth helpu i ddod ag elfennau o'r cwricwlwm yn fyw, gan gynnwys ymweliad gan y Bws Dementia Rhithwir a oedd yn galluogi'r disgyblion i deimlo sut beth yw byw gyda dementia.
Cawsant gyfle hefyd i gyfarfod a dysgu gan staff y Gwasanaethau Cymdeithasol a wnaeth gyflwyno sgyrsiau a gweithgareddau hyfforddi ac fe wnaeth Gofalwn Cymru gyflwyno Cwrs Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol i bobl ifanc, wedi'i gynllunio i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn gyrfa ym maes gofal cymdeithasol.
Fe wnaeth y tîm hefyd ymweld ag ysgolion uwchradd eraill Sir Benfro i ddarparu gwybodaeth gyrfaoedd a chefnogaeth cwricwlwm drwy gydol y flwyddyn, gan gyrraedd tua 420 o ddisgyblion yn ystod 2023.
Mae'r gwobrau hir-ddisgwyliedig hyn yn gyfle i Gyrfa Cymru gydnabod cyflogwyr sydd wedi gweithio gyda nhw i ddarparu profiadau gyrfa effeithiol ac atyniadol i ddisgyblion yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf.
Trwy weithio'n agos gydag ysgolion, mae'r sefydliadau hyn yn cefnogi pobl ifanc i wneud cysylltiadau rhwng yr hyn maen nhw'n ei ddysgu yn yr ysgol a byd gwaith a deall y cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw.
Dywedodd y Cynghorydd Tessa Hodgson, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol a Diogelu: "Mae'r gwaith partneriaeth hwn yn rhoi gwybodaeth gysylltiedig â gwaith i'n pobl ifanc i helpu i'w hysbrydoli a'u cymell wrth iddynt gynllunio ar gyfer eu dyfodol.
"Llongyfarchiadau i Leanne a Diana am gydnabyddiaeth eu gwaith gwerthfawr."