Hyrwyddwyr Democratiaeth Sir Benfro y dyfodol yn ymuno â'i gilydd
Pembrokeshire’s Democracy Champions of the future join forces
Yn ddiweddar aeth pobl ifanc o ysgolion uwchradd Sir Benfro i ddigwyddiad arbennig a gynlluniwyd i'w helpu i fod yn Hyrwyddwyr Democratiaeth.
Wedi'i drefnu gan y Tîm Gwasanaethau Etholiadol a'r Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc, canolbwyntiodd y digwyddiad ar yr hyn y mae democratiaeth yn ei olygu i'r disgyblion a pha effaith y mae'n ei chael ar eu bywydau bob dydd.
Daeth pobl ifanc o Ysgol Bro Preseli, Ysgol Harri Tudur, Ysgol Bro Gwaun, Ysgol Penrhyn Dewi, Ysgol Caer Elen, Ysgol Aberdaugleddau, Ysgol Uwchradd Hwlffordd ac Ysgol y Castell i'r digwyddiad yn Archifau Sir Benfro.
Trwy gydol y dydd roedd nifer o weithgareddau a oedd â’r nod o greu syniadau a thrafodaeth, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o hawliau pobl ifanc yng Nghymru i bleidleisio mewn rhai etholiadau o 16 oed.
Cafwyd gêm o bingo democratiaeth, gweithdai ar hanes democratiaeth a pham mae pleidleisiau'n bwysig yn ogystal â ffug etholiad a phleidlais, gan gynnwys bythau pleidleisio, ynghyd â thrafodaethau ar sut i gael hyd yn oed mwy o bobl ifanc i gymryd rhan a rhannu gwybodaeth.
Clywsant hefyd gan uwch staff y Cyngor am werth pleidleisio, gyda'r Prif Weithredwr Cynorthwyol Richard Brown yn agor y digwyddiad ac anerchiad i gloi gan y Cyfarwyddwr Addysg, Stephen Richards-Downes.
Cafwyd adborth cadarnhaol gan y bobl ifanc a oedd yn cymryd rhan a byddant hefyd yn helpu i lunio'r pecyn adnoddau i'w ddarparu i bob ysgol ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol.
Dywedodd Uwch Weithiwr Ieuenctid, Ymgysylltu, Perfformiad a Chymuned, Nadine Farmer: "Roedd yn wych cwrdd â grŵp mor frwdfrydig o bobl ifanc a fydd yn helpu i ledaenu'r neges am bwysigrwydd democratiaeth a defnyddio'ch pleidlais. Gyda chyflwyno pleidleisiau i bobl ifanc 16 oed ar gyfer rhai etholiadau yng Nghymru mae'n hanfodol bod mwy o bobl ifanc yn cymryd rhan yn eu democratiaeth ac yn deall bod democratiaeth i bawb!
"Bydd yr wybodaeth a'r adnoddau a ddatblygwyd yn y digwyddiadau Hyrwyddwr Democratiaeth yn caniatáu i gynrychiolwyr pob ysgol gynnal digwyddiadau yn y dyfodol a llywio dysgu aer gyfer eu cyfoedion."