
Ysgol yn Sir Benfro yn ennill gwobrau rhyngwladol
Pembrokeshire school wins international awards
Mae Ysgol Gynradd Prendergast yn Hwlffordd yn dathlu ar ôl derbyn gwobr eco ryngwladol.
Mae Ysgol Gynradd Prendergast wedi derbyn eu trydedd Wobr Baner Werdd diolch i'r rhaglen addysg amgylcheddol, Eco-Sgolion.
Mae Eco-Sgolion yn rhaglen ryngwladol sy'n cael ei chynnal yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru'n Daclus a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae dros 90% o ysgolion Cymru wedi'u cofrestru ar y rhaglen.
Mae'r rhaglen Eco-Sgolion yn ysbrydoli ac yn grymuso disgyblion i arwain newid yn eu cymuned, gan eu helpu i ddysgu am fywyd cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang wrth roi'r wybodaeth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i wneud newidiadau a fydd o fudd i'w hysgol, eu hamgylchedd lleol a'u cymuned ehangach, megis lleihau gwastraff, defnydd ynni, trafnidiaeth, byw'n iach a phroblemau sbwriel.
Fel rhan o'u hasesiad Eco-Sgolion, ymgymerodd Ysgol Gynradd Prendergast â phrosiect bioamrywiaeth uchelgeisiol ac eang i drawsnewid tiroedd yr ysgol yn gynefin cyfoethocach ar gyfer bywyd gwyllt.
Gweithiodd disgyblion a staff yn agos gyda sefydliadau lleol a chenedlaethol, gan gynnwys Canolfan Darwin, a gefnogodd yr ysgol i gynnal arolygon bioamrywiaeth helaeth a helpu i gynllunio'r prosiect; Partneriaeth Natur Sir Benfro, a ddarparodd gyngor ac arweiniad arbenigol; a Cadwch Gymru'n Daclus, a ddarparodd adnoddau a chefnogaeth hanfodol drwy eu Pecyn Datblygu Enfawr.
Rhannodd yr ysgol syniadau ac arfer da gydag ysgol leol arall yn ystod y broses gynllunio. Gyda chymorth y partneriaid hyn, plannodd disgyblion ardaloedd mawr o blanhigion brodorol a blodau gwyllt sy'n gyfeillgar i beillwyr, gwella cynefinoedd presennol a chreu mannau newydd i gefnogi pryfed, adar a mamaliaid bach. Cafodd ardal y pwll ei wella'n sylweddol i annog mwy o fioamrywiaeth a darparu cyfleoedd dysgu awyr agored ysbrydoledig.
Yn ogystal â'r gwaith bioamrywiaeth, sefydlodd yr ysgol siop Big Bocs Bwyd ‘Talu fel ry’ch chi’n teimlo’ i helpu i leihau gwastraff bwyd, gwella mynediad at fwyd maethlon a chefnogi lles teuluoedd.
Mae'r fenter hefyd wedi creu cyfleoedd i rieni gymryd rhan mewn gweithgareddau tyfu bwyd, coginio a menter. Roedd prosiectau eraill yn cynnwys hyrwyddo teithio llesol i'r ysgol, trefnu casglu sbwriel rheolaidd, cyflwyno compostio ar gyfer bwyd a gwastraff gardd a gosod casgen dŵr i gasglu dŵr glaw ar gyfer gardd yr ysgol. Mae'r camau hyn yn helpu disgyblion i feithrin sgiliau ymarferol a hyder wrth ddysgu am gynaliadwyedd a'u rôl wrth ofalu am yr amgylchedd.
Dywedodd Ms Louise John, pennaeth Ysgol Gynradd Prendergast:
“Rydym yn hynod falch o fod wedi ennill ein trydedd wobr y Faner Werdd drwy Eco-Sgolion Cymru. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn dyst i angerdd, gwaith caled ac ymrwymiad ein disgyblion, staff a chymuned ysgol ehangach wrth ofalu am ein hamgylchedd. Mae'n adlewyrchu ein hymroddiad parhaus i gynaliadwyedd a grymuso ein plant i wneud gwahaniaeth go iawn, yn lleol ac yn fyd-eang.”
Dywedodd Tim Wort, Swyddog Addysg Cadwch Gymru'n Daclus:
“Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Prendergast ar eu cyflawniad anhygoel. Maent yn enghraifft ddisglair o sut mae pobl ifanc yng Nghymru wedi ymrwymo i gyflawni dyfodol cynaliadwy i'w hysgol ond hefyd i'w cymuned ehangach a'u hamgylchedd lleol.”
I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen Eco-Sgolion, ewch i: https://keepwalestidy.cymru/cy/