English icon English
Wales street football squad - Sgwad pêl-droed stryd Cymru

Pêl-droedwyr stryd Sir Benfro i gynrychioli Cymru

Pembrokeshire street footballers to represent Wales

Mae tîm Cymru, sy’n llawn pêl-droedwyr o Sir Benfro, yn mynd i Ddulyn gyda’u bryd ar ennill gwobr ryngwladol o bwys.

Bydd Tîm Pêl-droed Stryd Cymru yn cymryd rhan yn Nhwrnamaint Rhyngwladol  Cynghrair Stryd Digartref Iwerddon rhwng 7 a 10 Mehefin i ddathlu 20 mlynedd o’r twrnamaint.

Yn ogystal â sgwad sy’n llawn chwaraewyr o Sir Benfro, mae'r Prif Hyfforddwr hefyd yn dod o'r sir.

Mae Jo Price yn gyn gôl-geidwad Arsenal a Chymru ac erbyn hyn mae hi’n gweithio fel Swyddog Adfywio Cymunedol i Gyngor Sir Penfro.

Mae Jo yn eiriolwr mawr dros Bêl-droed Stryd, a gynhelir drwy'r elusen cynhwysiant cymdeithasol Pêl-droed Stryd Cymru.

Mae'r sgwad yn hyfforddi ym Mhrosiect Ieuenctid y Garth, sy’n cael ei alw yr Hive, yn Hwlffordd.

Mae'r sesiynau hyfforddi’r tîm cenedlaethol wedi bod yn cael eu cynnal ers mis Chwefror i baratoi ar gyfer y twrnamaint.

Meddai Jo: "Mae hi bob amser yn fraint chwarae dros eich gwlad ac mae bod â thîm o Gymru sy'n cynnwys chwaraewyr o Sir Benfro yn gyfan gwbl yn gamp mor wych i'n sir.

"Mae pob un o'r chwaraewyr yn ysbrydoliaeth ond mae'n rhaid i ni sôn yn arbennig am y Capten, Marie Tilley, sydd wedi goresgyn canser i arwain ei gwlad.

"Yr wythnos diwethaf cafodd y chwaraewyr eu synnu gan y newyddion y byddan nhw'n gwisgo cit pêl-droed swyddogol Cymru pan fyddan nhw'n mynd ar y cae yn Nulyn, roedd eu hwynebau nhw’n bictiwr ac rydyn ni’n diolch i Gymdeithas Bêl-droed Cymru sydd hefyd yn darparu cit hyfforddi a theithio."

Bydd Cymru'n chwarae Iwerddon, Sbaen, Romania, Gwlad Pwyl a'r Alban yn ystod y twrnamaint.

Dyma pwy fydd yn cynrychioli Cymru:

Marie Tilley (C), Cerys Phillips, Freya Marshall, Niamh Mathias, Bryony Davies, Claire Mantripp, Shauna Bennett, Kayleigh Summers a Megan Tinley.