Safonau Masnach Sir Benfro yn rhybuddio yn erbyn galwyr digroeso wedi Storm Darragh
Pembrokeshire Trading Standards warn against cold callers after Storm Darragh
Mae Safonau Masnach yn gofyn i'r cyhoedd fod yn ymwybodol o fasnachwyr twyllodrus a galwyr digroeso a allai geisio manteisio ar y difrod a achoswyd gan Storm Darragh.
“Gallai masnachwyr twyllodrus gamfanteisio ar y sefyllfa a adawyd yn sgil Storm Darragh trwy berswadio trigolion bod angen sylw brys ar eu heiddo er enghraifft atgyweirio ffensys, gosod teils to newydd yn lle rhai rhydd neu gael gwared ar goed sydd wedi'u difrodi," meddai'r Cynghorydd Jacob Williams, Aelod Cabinet dros Gynllunio a Gwasanaethau Rheoleiddio.
“Efallai y byddant yn rhoi pwysau ar drigolion drwy honni bod angen gwneud gwaith ar unwaith i ddiogelu'r eiddo, codi pris rhy uchel a mynnu taliadau ymlaen llaw.
“Yn aml, ni ddarperir gwaith papur neu mae'n cynnwys manylion cyswllt anghywir. Yn aml, mae’r gwaith a wneir o ansawdd gwael, ac wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen gall y masnachwyr honni bod angen gwneud mwy o waith nag sydd ei angen mewn gwirionedd.”
Mae Safonau Masnach yn cynghori:
- - Ni ddylid delio â galwyr digroeso sy'n cynnig gwneud gwaith, ni waeth beth maent yn ei honni.
- - Cysylltwch â'ch darparwr yswiriant cartref i weld beth sydd wedi'i gynnwys a'r weithdrefn ar gyfer gwneud unrhyw hawliad.
- - Siaradwch â theulu, ffrindiau neu gymdogion a gofyn iddynt argymell gweithwyr.
- - Dylid cael sawl dyfynbris ysgrifenedig.
- - Byddwch yn ofalus wrth ymateb i daflenni sy’n dod drwy’r drws i’ch cartref, hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol, llwyfannau masnachwyr ac adolygiadau ar-lein.
- - Cymerwch eich amser i benderfynu. Ni fydd masnachwyr dibynadwy yn pwyso arnoch i wneud penderfyniad.
Os ydych chi'n gweld unrhyw un yn ymddwyn yn amheus, yn bryderus am unrhyw fasnachwyr sy'n gweithio neu sy'n dosbarthu taflenni yn eich ardal neu wedi dioddef masnachwr twyllodrus eich hun, gallwch roi gwybod i Safonau Masnach drwy gysylltu â llinell gymorth Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133 (neu 0808 223 1144 ar gyfer siaradwyr Cymraeg), yr heddlu ar 101 neu ffoniwch 999 os ydych chi'n teimlo dan fygythiad neu'n ofnus.