Pensiynwr yn cael dirwy am chwarae cerddoriaeth yn uchel er gwaethaf nifer o rybuddion
Pensioner fined for playing loud music despite numerous warnings
Mae pensiynwr o Neyland wnaeth barhau i chwarae cerddoriaeth yn uchel er gwaethaf sawl rhybudd wedi ei chael yn euog o dorri Hysbysiad Gwarchod y Gymuned.
Derbyniwyd cyfres o gwynion am Beryl John, o 6 Heol Gothic.
Sicrhaodd Swyddogion Cyngor Sir Penfro dystiolaeth trwy ddefnyddio NoiseApp i brofi bod y sŵn yn niweidiol i gymdogion, gan arwain at gyhoeddi Rhybudd Gwarchod y Gymuned.
Parhaodd yr ymddygiad gyda John hefyd yn ymosodol tuag at swyddogion Cyngor Sir Penfro a Heddlu Dyfed-Powys ac arweiniodd hyn at y Rhybudd Gwarchod y Gymuned yn cael ei ddwysáu i Hysbysiad Gwarchod y Gymuned.
Unwaith eto gwrthododd John gydymffurfio ac aeth y Cyngor â’r achos o dorri'r Hysbysiad Gwarchod y Gymuned i'r Llys.
Methodd John ag ymddangos gerbron Llys Ynadon Hwlffordd ar 5 Chwefror ond fe'i cafwyd yn euog yn ei habsenoldeb.
Gorfododd ynadon ddirwy o £1000 a gorchmynnodd John i dalu gordal dioddefwr o £400 a chostau o £1000.
Os bydd ymddygiad gwrthgymdeithasol John yn parhau, gall y Cyngor ddychwelyd i'r llys i geisio Gorchymyn Ymddygiad Troseddol.
Gall torri Gorchymyn Ymddygiad Troseddol arwain at ddedfryd gymunedol a dedfryd o garchar o bosibl.
Dywedodd y Cynghorydd Jacob Williams, Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Cynllunio a Rheoleiddio, na fydd y Cyngor yn oedi cyn defnyddio Rhybuddion a Hysbysiadau Gwarchod y Gymuned ochr yn ochr â chamau llys lle bo angen i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i gymdogion yr effeithir arnynt gan ymddygiad gwael.
Dywedodd y Cynghorydd Williams: "Mae'r Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid fel Heddlu Dyfed-Powys a chymdeithasau tai i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol fel hyn, sy'n effeithio'n fawr ar ansawdd bywydau trigolion.”
“Fel gyda phob achos o'r math hwn, mae'n drueni bod pethau wedi gorfod dod gerbron y llys, ond cafodd y diffynnydd lawer o gyfleoedd i osgoi pethau'n gwaethygu dim ond trwy wella eu hymddygiad, a gobeithio y bydd hynny'n digwydd nawr.”