Perrots Road

Diweddariad maes parcio Perrots Road

Perrots Road car park update

Rhannu:

Bydd gyrwyr sy'n defnyddio maes parcio Perrots Road yn Hwlffordd ond yn gallu gadael trwy Swansquare o ddydd Gwener, 11 Hydref.

Oherwydd gwaith sy’n cael ei wneud fel rhan o'r gyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus newydd, bydd yr allanfa o'r maes parcio sy'n arwain wrth ymyl safle’r tacsis i Cartlett Road ar gau nes bydd hysbysiad pellach.

Bydd y safle tacsi yn parhau ar agor a bydd tacsis yn defnyddio’r safle trwy fynedfa'r orsaf fysiau.

Bydd angen i gerbydau sy'n defnyddio maes parcio Perrots Road fynd i mewn ac allan o'r maes parcio trwy Swansquare.