Cynllun i ddileu system archebu y canolfannau gwastraff ac ailgylchu
Plan to remove booking system for waste and recycling centres
Mae Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Tessa Hodgson, wedi cadarnhau mai bwriad ei gweinyddiaeth yw dileu system archebu canolfannau gwastraff ac ailgylchu Sir Benfro.
Mae'r Cynghorydd Hodgson wedi gofyn i'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trigolion, y Cynghorydd Rhys Sinnett, weithio gyda swyddogion i gyflwyno adroddiad yn amlinellu'r opsiynau.
Dywedodd y Cynghorydd Hodgson: "Mae Sir Benfro yn gyson yn un o’r awdurdodau lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru o ran gwastraff ac ailgylchu ac rwy'n diolch i'n staff a phobl Sir Benfro am ein helpu i barhau i wella.
"Fodd bynnag, mae'r system archebu yn fater sy'n cael ei godi gyda mi dro ar ôl tro gan drigolion, ac felly mae cael gwared ar y system archebu yn flaenoriaeth i fi a fy ngweinyddiaeth.
"Gyda thechnoleg fodern sy’n adnabod platiau rhif a monitro teledu cylch cyfyng, dydw i ddim yn gweld unrhyw reswm pam na allwn sicrhau bod y safleoedd yn cael eu defnyddio'n briodol ac yn ddiogel gan Drethdalwyr y Cyngor, gan leihau unrhyw ddefnydd anawdurdodedig - heb yr angen am system archebu.
"Gall y trefniadau presennol gymryd llawer o amser ac maen nhw’n fiwrocrataidd. Rwy'n credu y gallwn ni greu system sy'n cynnal safonau uchel o waredu gwastraff, yn darparu gwerth am arian i drethdalwyr, ac yn parhau i sicrhau cymaint o ailgylchu â phosibl, hyn i gyd heb fiwrocratiaeth ddiangen.
"Bwriad ein gweinyddiaeth yw bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Cabinet ym mis Medi gyda chynllun clir i gael gwared ar y system archebu o'n canolfannau gwastraff ac ailgylchu."
Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trigolion, y Cynghorydd Rhys Sinnett: "Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw hi i drigolion gael mynediad syml a chyfleus i'w canolfannau gwastraff ac ailgylchu lleol, ac rwy'n croesawu'r gwaith hwn i ystyried sut y gallwn wneud i hynny ddigwydd.
"Bydd ein ffocws ar ddatblygu dull ymarferol, modern sy'n gwella'r profiad i drigolion wrth gynnal diogelwch, diogelu'r gwasanaeth rhag camddefnydd, a pharhau i ddarparu perfformiad ailgylchu cryf i Sir Benfro. Edrychaf ymlaen at gyflwyno cynigion sy'n taro'r cydbwysedd cywir i'n cymunedau."