TrawsCymru

Teithio i Eisteddfod y Garreg Las

Plan your journey to Eisteddfod y Garreg Las

Rhannu:

Disgwylir i ymwelwyr ledled Cymru a thu hwnt heidio i gymunedau lleol Eisteddfod y Garreg Las.

O ba bynnag gyfeiriad rydych chi’n teithio, a sut bynnag y byddwch chi’n penderfynu teithio, gall cynllunio’ch taith ymlaen llaw sicrhau eich bod chi’n cyrraedd y Maes mewn da bryd.

Mewn car:

Dilynwch yr arwyddion melyn ‘Eisteddfod’ i gyrraedd y Maes os ydych chi’n dod mewn car.

Mae’r safle yn Llantwd ychydig filltiroedd i’r de o Aberteifi, ar hyd yr A487.

O Abergwaun, dilynwch yr A487 drwy Drefdraeth ac i’r gogledd yn union i fynedfa’r Maes.

O Arberth neu Gaerfyrddin, cymerwch ffordd yr A478 o gylchfan Penblewyn, parhewch nes i chi gyrraedd y gyffordd â ffordd y B4332 (Postgwyn), trowch i’r chwith a theithiwch tua’r gorllewin.

Dilynwch arwyddion yr Eisteddfod – byddwch yn cael eich cyfeirio i’r gogledd o ffordd y B4332 cyn i chi gyrraedd Eglwyswrw

O ardal Crymych, Boncath – teithiwch i gyffordd ffordd y B4332 a ffordd yr A478 ym Mhostgwyn – yna teithiwch tua’r gorllewin.

Wrth deithio o’r gogledd – Aberteifi, dilynwch ffordd yr A478 i’r Maes.

Dilynwch yr arwyddion i’r meysydd parcio am ddim a pheidiwch â pharcio ar ochr y ffordd.

Cyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus

Mae gwasanaethau bws ychwanegol yn ei gwneud hi’n haws gadael y car gartref wrth deithio i’r digwyddiad arbennig hwn yng ngogledd Sir Benfro.

Bydd gwasanaeth bws TrawsCymru T5 yn cludo teithwyr yn syth i’r Maes yn Llantwd, gan redeg yn rheolaidd o Hwlffordd i Aberteifi drwy Abergwaun a Threfdraeth.

Bydd TrawsCymru hefyd yn darparu bysiau amlach a gwasanaethau hwyr y nos rhwng Abergwaun ac Aberteifi drwy gydol wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae gwasanaeth bws rhif 430 yn darparu cysylltiad o Arberth i Aberteifi trwy Grymych.   

Mae modd lawrlwytho amserlenni bysiau gwasanaeth T5 a 430 wythnos yr Eisteddfod yn https://www.sir-benfro.gov.uk/llwybrau-bysiau-ac-amserlenni/newidiadau-arfaethedig-ir-gwasanaeth-bysiau-rev

Diolch i gefnogaeth gan Gyngor Sir Penfro, bydd y gwasanaeth hwn yn rhedeg bob dydd drwy gydol yr Eisteddfod gyda phob gwasanaeth yn rhedeg yr holl ffordd i/o Arberth, a bws ychwanegol yn hwyr gyda’r nos yn gadael yn uniongyrchol o’r Maes am 11.15pm.   Newid yn Aberteifi ar gyfer trosglwyddo ymlaen i’r Maes.

Mae teithio ar fws am ddim i deithwyr sydd â phàs bws teithio rhatach Cymru gyfan.  Gall pobl ifanc 21 oed neu iau deithio am £1 y daith (uchafswm o £3 drwy’r dydd) (mae angen FyNgherdynTeithio os ydych chi’n 16-21 oed). Edrychwch ar brisiau teithiau arbennig yr Eisteddfod sydd ar gael gan Trafnidiaeth Cymru https://traws.cymru/cy/catch-the-t5-bus-straight-to-the-eisteddfod.

Gall ymwelwyr â’r eisteddfod hefyd ddefnyddio Bws yr Arglwydd Rhys, gwasanaeth gwennol am ddim i’r Maes o Sgwâr Finch, Aberteifi, bob awr, o 7am i hanner nos.

Trên

Os ydych chi’n teithio o bell ac yn bwriadu mynd ar y trên, mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu bysiau gwennol rheolaidd am ddim i’r Maes o orsaf Caerfyrddin Cliciwch yma am yr amserlen.

Ewch i https://trc.cymru/ffyrdd-o-deithio am ragor o wybodaeth am wasanaethau trên. Gallwch hefyd ddefnyddio Traveline Cymru, https://www.cymraeg.traveline.cymru/ i gynllunio eich taith.

Tripiau arbennig i’r Maes

Mae Jones Login yn trefnu teithiau i’r Eisteddfod ddydd Llun, dydd Mercher, a dydd Gwener, gan adael Caerfyrddin am 7.35am ac yn codi teithwyr yn San Clêr, Hendy-gwyn ar Daf, Penblewin, Arberth, ac ar hyd ffordd yr A478 cyn belled â Boncath.

Gwybodaeth a ffurflen archebu: https://www.joneslogin.co.uk/Tour/Eisteddfod-Genedlaethol-Cymru


Mae Windy Corner Coaches yn cynnal teithiau i’r Eisteddfod ddydd Llun a dydd Gwener, gyda thaith arbennig ar y dydd Sadwrn cyntaf i weld cyngerdd Super Furry Animals.

Gwybodaeth a ffurflenni archebu:
https://windycornercoaches.co.uk/day-trips 

Bydd Midway Motors yn cynnal teithiau i’r Maes bob dydd drwy gydol yr Eisteddfod.   Bydd y rhain yn cychwyn o Degryn am 10am, i Lanfyrnach am 10.05am, Hermon am 10.10am, Crymych am 10.15am, Blaen-ffos am 10.20am, Boncath am 10.25am ac Eglwyswrw am 10.35am. Yn dychwelyd o’r Maes am 6pm.

Yn y nos o Degryn am 5.15pm, i Lanfyrnach am 5.20pm, Hermon am 5.25pm, Crymych am 5.30pm, Blaen-ffos am 5.40pm, Boncath am 5.45pm ac Eglwyswrw am 5.50pm, yn dychwelyd o’r Maes am 11pm.

£5 oedolion, £1 plant, archebwch drwy ffonio 01239 831267

Tacsis

Mae cwmnïau tacsi lleol sy’n darparu gwasanaethau i’r Maes yn cynnwys Kyle’s Taxis, H J Taxis Ltd, Tony’s Taxis, Fishguard Taxis, Morgans Private Hire, Letterston Taxi Service, Frank’s Cabs / St David’s Taxis, A2B Mininbuses and Taxis, H&S Cab Service, Robins Taxis a Home James.