
Plant Sir Benfro yn paratoi ar gyfer y parêd poblogaidd i ddathlu ein Nawddsant
Pembrokeshire children preparing for popular parade celebrating Patron Saint
Bydd cannoedd o blant ysgol Sir Benfro yn cerdded strydoedd Hwlffordd ddydd Gwener, 7 Mawrth wrth i barêd poblogaidd Dydd Gŵyl Dewi ddychwelyd.
Trefnir y parêd flynyddol trwy’r dref gan Fforwm Iaith Sir Benfro a Chyngor Sir Penfro, a bydd y dathliadau yn cychwyn am 10am.
Dan arweiniad egnïol Samba Doc, bydd y parêd yn dechrau o'r maes parcio y tu ôl i hen adeilad y llyfrgell sirol ar Dew Street.
Bydd y plant yn dod i lawr y Stryd Fawr, trwy Stryd y Bont, dros yr Hen Bont, yn ôl ar hyd Stryd y Cei, gan orffen ar Feysydd Chwarae Picton, am jambori awyr agored.
“Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i blant ddod at ei gilydd mewn dathliad bywiog o falchder, iaith, cerddoriaeth ac ysbryd cymunedol Cymru," meddai Catrin Phillips, Swyddog Datblygu'r Gymraeg Cyngor Sir Penfro.
Yn ogystal â'r parêd, gwahoddir busnesau lleol i gymryd rhan mewn cystadleuaeth ffenestr siop, i ddathlu popeth Cymreig. “Bydd yr arddangosfa orau a ysbrydolwyd gan Gymru a Chymreictod yn ennill tlws draig arbennig," meddai Rhidian Evans, Prif Swyddog Menter Iaith Sir Benfro.
Anogir y cyhoedd yn gynnes i ddod draw yn eu gwisgoedd Cymreig a chwifio’u baneri i groesawu’r parêd, i ychwanegu at awyrgylch yr ŵyl.
“Byddem wrth ein bodd yn gweld cynifer o bobl â phosibl ar hyd y strydoedd i ddathlu Cymru, ein hiaith a'n diwylliant," meddai'r Cynghorydd Guy Woodham, Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg.
Ymunwch â ni i wneud y dathliad Dydd Gŵyl Dewi hwn yn achlysur gwirioneddol arbennig! Os hoffech ddod â grŵp i ymuno â'r parêd, cysylltwch â'r tîm drwy’r dudalen Facebook.