English icon English
AS Stephen Crabb yn Ysgol Aberllydan

Plant yn herio AS ar Anghyfiawnder Hinsawdd

Children challenge MP on Climate Injustice

Mae plant Ysgol Gymunedol Aberllydan wedi bod yn arddangos eu doniau artistig a'u sgiliau trafod i’w AS lleol fel rhan o brosiect sy'n edrych ar newid yn yr hinsawdd.

Fel rhan o brosiect 'Llythyrau dros y Greadigaeth', a gyflawnwyd gyda Chapel Bedyddwyr Aberllydan, cafodd disgyblion gyfle i esbonio sut maen nhw'n teimlo am anghyfiawnder hinsawdd trwy waith celf, rap, drama ac areithiau. Fore dydd Gwener, bu modd iddynt gyflwyno'r gwaith hwn i'r AS Preseli Sir Benfro lleol, Mr Stephen Crabb.

Aeth y plant â Mr Crabb ar daith o amgylch yr arddangosfa yng Nghapel Aberllydan, gan egluro'r gwaith celf, eu teimladau am Newid yn yr Hinsawdd ac anghyfiawnderau gwledydd tlawd yn cael eu heffeithio'n fwy na gwledydd cyfoethog. Fel rhan o'r prosiect, gwrandawodd y plant ar y siaradwr gwadd, Miara Rabearisoa, a siaradodd am sut mae'r argyfwng hinsawdd yn effeithio ar ei wlad enedigol, Madagascar, a dylanwadodd y sgwrs hon yn uniongyrchol ar y gwaith celf a arddangoswyd.

Ochr yn ochr â'r celf ffisegol, ysgrifennodd a pherfformiodd y plant ddramâu a rapiau i amlygu anghyfiawnderau yn y byd. Ysgrifennodd Dosbarth 4 areithiau cynhyrfus hefyd a oedd yn herio Mr Crabb i godi llais yn y Senedd dros y gwledydd tlotach sy’n cael eu heffeithio gan Newid yn yr Hinsawdd.

Wrth wneud sylwadau yn yr Arddangosfa, dywedodd Mr Crabb, "Crëwyd argraff fawr arna’ i gan y gwaith celf y mae myfyrwyr Ysgol Gynradd Gymunedol Aberllydan wedi ei greu, sy'n archwilio materion hinsawdd ac amgylcheddol.  Roedd yn bleser mawr cael fy arwain o amgylch yr arddangosfa a siarad drwy'r gwahanol arddangosfeydd gan y myfyrwyr.

“Roedd y plant yn angerddol ac yn ddifyr wrth iddynt siarad am eu gwaith celf ac roedd yn wych gweld y fath greadigaethau hardd a oedd â negeseuon pwysig iawn am yr amgylchedd. Gwnaeth y plant areithiau pwerus iawn am anghyfiawnder hinsawdd a newid yn yr hinsawdd a chefais fy ysbrydoli'n fawr gan eu teimladau cryf am y mater hwn. Rwy'n llongyfarch yr ysgol ac Eglwys Bedyddwyr Aberllydan am eu gwaith partneriaeth ardderchog ar y pryder pwysig iawn hwn."

Dywedodd y Parchedig Helen Dare, gweinidog lleol y Bedyddwyr, "Mae bob amser yn fraint cael gweithio gyda phlant Ysgol Aberllydan, ac nid oedd prosiect Llythyrau dros y Greadigaeth yn eithriad. Crëwyd argraff arna’ i gan aeddfedrwydd y sgyrsiau a gefais â'r plant pan gawsant eu cyflwyno gyntaf i'r syniad o gyfiawnder hinsawdd, a'r gwaith creadigol o ansawdd uchel a gynhyrchwyd ganddynt. Fe wnaethant siarad â brwdfrydedd ac eglurder wrth gyflwyno areithiau i oedolion gan gynnwys eu AS, ac rwy'n falch o fod yn gysylltiedig â'r ysgol, yn anad dim oherwydd awydd y plant i weld newid er budd pobl dlotaf y byd."

Dywedodd y Pennaeth, Mr Gareth Lewis, "Rwyf mor falch bod pob plentyn yn Ysgol Aberllydan wedi cymryd rhan yn y prosiect pwysig hwn. Mae'r dysgu hwn wedi ehangu gorwelion ein plant ac wedi rhoi gwell dealltwriaeth iddynt o sut mae ein gweithredoedd yn effeithio ar weddill y byd.

“Mae hefyd yn dangos sut y gall pobl ifanc yng Nghymru ddefnyddio eu lleisiau a'u gweithredoedd i alw am fyd tecach i bawb. Mae ein plant yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus y byd."

Llun:

Yn y llun mae AS Preseli Sir Benfro, Stephen Crabb, gyda disgyblion o Ysgol Aberllydan yn eu harddangosfa anghyfiawnder hinsawdd yng Nghapel Aberllydan.