
Plant ysgol Sir Benfro yn ymuno â channoedd o bobl i ddathlu Cyhoeddi'r Eisteddfod
Pembrokeshire school children join hundreds celebrating Eisteddfod Proclamation
Ymunodd pobl ifanc o bob rhan o Sir Benfro a Cheredigion â channoedd o bobl yn un o'r gorymdeithiau mwyaf ers blynyddoedd lawer i groesawu'r Eisteddfod Genedlaethol i'r ardal.
Gwnaeth aelodau o Orsedd Cymru, ynghyd â thrigolion lleol, arwain gorymdaith drwy Arberth ddydd Sadwrn, 17 Mai, yn rhan o’r seremoni gyhoeddi a chroesawu'r Eisteddfod i Lantwd yn 2026.
Cynhelir yr Eisteddfod – Eisteddfod y Garreg Las – rhwng 1 ac 8 Awst 2026 i ymweld â Sir Benfro am y tro cyntaf ers 2002 a bydd yn gydweithrediad unigryw gyda siroedd cyfagos, gan y bydd y dalgylch nid yn unig yn cynnwys Sir Benfro gyfan, ond hefyd yn ymestyn i ardaloedd gorllewinol Sir Gaerfyrddin, a de Ceredigion.
Dywedodd y Cynghorydd Sir lleol, y Cynghorydd Marc Tierney: "Roedd yr orymdaith a’r seremoni gyhoeddi liwgar a bywiog a gynhaliwyd yn Arberth ddydd Sadwrn yn arbennig iawn i'w gweld. Diolch i bawb a wnaeth ymdrech arbennig i groesawu'r torfeydd o ymwelwyr ac aelodau'r Orsedd i Sir Benfro.
“Mae'r seremoni gyhoeddi wedi’i gwreiddio mewn traddodiad ac mae'r hyn a fydd yn dilyn yn yr Eisteddfod yn cynrychioli’r gorau o ddiwylliant a threftadaeth Cymru, gan ddod â phobl at ei gilydd trwy farddoniaeth, cerddoriaeth a chân.
“Roedd yn wych gweld cymaint o bobl ifanc yn mwynhau'r digwyddiadau ac yn cymryd rhan yn yr orymdaith, roeddwn yn falch o gynnig fy nghefnogaeth i'r hyn rwy'n gobeithio bydd y cyntaf o nifer o ddigwyddiadau cadarnhaol, fydd llawer o bobl yn eu mynychu yn y cyfnod cyn Eisteddfod Y Garreg Las yn 2026.”
Dywedodd John Davies, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod a Chynghorydd Sir leol: "Roedd yn fraint cyflwyno'r Rhestr o Gystadlaethau i'r Archdderwydd. Dyma benllanw misoedd lawer o waith gan y pwyllgorau lleol. Rydyn ni wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod syniadau, cerddi a chaneuon, ac mae'n wych rhannu popeth gyda Chymru gyfan."
Ychwanegodd Hyrwyddwr y Gymraeg Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Delme Harries: "Rwy'n hynod falch y bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod i'n sir ni y flwyddyn nesaf. Mae hwn yn gyfle gwych i arddangos ein diwylliant cyfoethog, ein treftadaeth a'n cymunedau bywiog.
"Edrychaf ymlaen at weld y sir gyfan yn dod at ei gilydd i gefnogi a dathlu'r ŵyl eiconig hon. Roedd y seremoni gyhoeddi yn achlysur gwirioneddol wych, yn llawn lliw, balchder ac ysbryd Sir Benfro ac fe roddodd flas i ni o'r hyn sydd i ddod - mae'n addo bod yn ddigwyddiad gwirioneddol gofiadwy i ni i gyd.”