English icon English
Winners and runners up at the Spotlight Awards 2026

Pobl ifanc yn disgleirio yng Ngwobrau Sbotolau Sir Benfro eleni

Young people shine at this year’s Pembrokeshire Spotlight Awards

Cynhaliwyd Gwobrau Sbotolau Sir Benfro - sy'n dathlu plant a phobl ifanc sy'n cyflawni pethau eithriadol ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol – am y pedwerydd tro yn ddiweddar.

Cafodd y digwyddiad, a drefnwyd gan Ieuenctid Sir Benfro, y Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc a'r Gwasanaethau Plant, ei aildrefnu ar ôl cael ei ohirio ym mis Tachwedd oherwydd tywydd garw.

Sicrhaodd cefnogaeth gan BAM Nuttall, Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, Pure West Radio ac Ascona y gallai'r gwobrau fynd yn eu blaen ar 6 Chwefror yn Theatr Myrddin, Coleg Sir Benfro.

Fe wnaeth y Cynghorydd Marc Tierney, Aelod Cabinet dros Bobl Ifanc, Cymunedau a Lles Cenedlaethau'r Dyfodol, ganmol cyflawniadau'r rhai a gydnabuwyd: "Roedd yn fraint cael bod yn rhan o Wobrau Sbotolau eleni a chlywed sut mae ein pobl ifanc wedi llwyddo yn eu bywydau eu hunain ac yn eu cymunedau. Rwyf am ddiolch yn fawr iawn i'r trefnwyr am eu hymdrechion lawer i wneud yn siŵr bod y digwyddiad hwn yn llwyddiant a diolch i'r noddwyr. Ni fyddai’n bosibl llwyfannu dathliad o'r fath hebddynt."

Ychwanegodd y Cynghorydd Maureen Bowen, Cadeirydd Cyngor Sir Penfro: "Roedd yn bleser bod yn noson Gwobrau Sbotolau gan eu bod yn tynnu sylw at dalent pobl ifanc Sir Benfro ac yn rhoi gobaith am ddyfodol disglair i'r sir yn nwylo'r bobl ifanc gwych hyn."

Agorodd y seremoni gyda neges fideo gan y Prif Weinidog Eluned Morgan, a roddodd ei llongyfarchiadau er nad oedd yn gallu bod yno’n bersonol.

Nodwyd a dathlwyd rhai cyflawniadau anhygoel yn y digwyddiad ac mae'r enillwyr a'r rhai a ddaeth yn ail fel a ganlyn:

  • Cymraeg: Emma Nicholas.
  • Gwobr Codi Arian: Ben Stanton (enillydd); yn ail Jack Gray, Cyngor Ieuenctid Aberdaugleddau.
  • Hyrwyddwr Eco: Tomos Roberts.
  • Cyflawni Newid Cadarnhaol: Alfie Harper (enillydd); yn ail Amber Allerton, Thomas John.
  • Celfyddydau: Dawn Clark (enillydd); yn ail Lillie‑Mai Radcliffe, Kali Flux.
  • Addysg: Yuliia Bedyk ac Andrii Volkov (enillwyr ar y cyd); yn ail Courtney Waugh, Leo Credland.
  • Gwneud Gwahaniaeth yn y Gymuned: Fforwm Ieuenctid Off The Streets (enillydd); yn ail Megan Mathias / Kyra Mottram / Lexi Jenkins, Cynulliad Ieuenctid Sir Benfro.
  • Stori Fwyaf Ysbrydoledig: Kai Williams enillydd); yn ail Carly Sharif, Caitlin Griffith, Berat Sahin.
  • Cerddoriaeth: Dylan Harwood (enillydd); yn ail Toby Draper, Cast Bugsy Malone 2025 – Ysgol Harri Tudur.
  • Chwaraeon: Samantha Barton (enillydd); yn ail Mary Falconer, Alannah Field, Destiny John.
  • Llais: Fforwm Ieuenctid Young Voices for Choices.
  • Arweinydd Ifanc / Mentor Cyfoedion: Caiden Meacham (enillydd); yn ail Amélie Houghton, Brooke Jenkins‑McNamara.

Prif Wobr Sbotolau 2025

Prosiect Ieuenctid We Know Our Journey

Aeth y brif anrhydedd eleni i'r Prosiect Ieuenctid We Know Our Journey, grŵp cydweithredol a ffurfiwyd gan aelodau o'r Prosiect Merched You Should Know  a’r Prosiect Bechgyn His Path His Journey.

Cafodd y grŵp ei gydnabod am ei waith yn hyrwyddo cynhwysiant, herio normau niweidiol ac annog trafodaeth agored ynghylch Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, yn ogystal ag iechyd meddwl dynion.

Un o'u prif lwyddiannau oedd trefnu'r digwyddiad "Men Make It Safe" ledled y sir, a oedd yn cynnwys siaradwyr o Sefydliad DPJ, Nigel Owens MBE a Matt Brown o She Is Not Your Rehab.

Yn ogystal, cododd y prosiect £1,600 ar gyfer elusennau iechyd meddwl a cham-drin domestig lleol trwy nofio môr a rhas 10k oedd yn cynnwys 24 o gyfranogwyr ifanc.

Trwy eu gweithredu, arweinyddiaeth ac ymrwymiad, mae'r grŵp wedi dangos y rôl bwerus sydd gan bobl ifanc wrth greu newid cadarnhaol yn eu cymunedau.

Our beginnings - YouTube

Cydnabyddiaeth

Estynnwyd diolch arbennig i'r holl gyflwynwyr, enwebwyr, perfformwyr a chefnogwyr, gan gynnwys Izzy Roberts; staff yng Ngholeg Sir Benfro; trefnwyr y digwyddiad Nadine Farmer, Bethany Roberts, Nicky Edwards ac Angie Moore; a busnesau sy'n cyfrannu at y digwyddiad gan gynnwys National Grid, Princes Gate, Tan y Castell, Greggs a The Vine.

Mae mwy o wybodaeth ar dudalen facebook Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc.