Poppit Rocket yn dod yn wasanaeth fflecsi
Poppit Rocket becomes fflecsi service
Mae'r gwasanaeth bws 405 Poppit Rocket sy'n rhedeg ar hyd yr arfordir rhwng Abergwaun ac Aberteifi bellach yn cael ei weithredu fel gwasanaeth fflecsi.
Yn hytrach na rhedeg chwe diwrnod yn yr haf ac un diwrnod rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sadwrn trwy gydol y flwyddyn.
Bydd y gwasanaeth yn cwmpasu'r ardal rhwng Abergwaun ac Aberteifi yn ogystal â'r ardal i'r de cyn belled â Chrymych.
Bydd hyn yn darparu gwasanaeth mwy cynaliadwy a defnyddiadwy i gymunedau, gyda llawer ohonynt heb wasanaeth bws rheolaidd drwy gydol y flwyddyn ar hyn o bryd.
Bydd y gwasanaeth fflecsi newydd hefyd yn darparu cyswllt i Ganolfan Iechyd Integredig Aberteifi.
Mae'r gwasanaeth yn cael ei ariannu gan ddefnyddio cymhorthdal bws presennol.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet gwasanaethau Trigolion: “Mae ehangu'r gwasanaeth fflecsi hwn yn newyddion gwych i drigolion ac ymwelwyr.
“Mae'r ddarpariaeth bresennol wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran agor y gwasanaeth i ardal ehangach a darparu mwy o opsiynau teithio i deithwyr.
“Bydd y gwasanaeth fflecsi newydd hwn hefyd yn galluogi trigolion ac ymwelwyr i gael cludiant 6 diwrnod yr wythnos drwy'r flwyddyn, ac nid yw hyn wedi digwydd o'r blaen.”
Dechreuodd y gwasanaeth ddydd Llun 2il Hydref ac mae ar gael unrhyw bryd rhwng 7.30am a 6.30pm, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
Gallwch gadw lle drwy'r ap fflecsi neu drwy ffonio 0300 234 0300.