Adroddiad cadarnhaol gan Estyn yn dathlu cryfderau Ysgol Gynradd Gymunedol Prendergast
Positive Estyn Report celebrates strengths of Prendergast Community Primary School
Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Prendergast yn dathlu adroddiad arolygu hynod gadarnhaol gan Estyn, sy’n tynnu sylw at ymdeimlad cryf o gymuned yr ysgol, ethos cynhwysol, ac ymrwymiad i lesiant a chynnydd disgyblion.
Cydnabu arolygwyr yr ysgol fel “cymuned gynhwysol, gefnogol gyda diwylliant diogelu cryf”, lle mae disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, eu gwerthfawrogi, a’u grymuso i ddylanwadu ar fywyd yr ysgol trwy grwpiau arweinyddiaeth. Canmolwyd ymddygiad y disgyblion am gyfrannu at amgylchedd dysgu digynnwrf a phwrpasol.
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y perthnasoedd cryf rhwng staff a disgyblion, sy’n meithrin brwdfrydedd dros ddysgu.
Cydnabuwyd dull yr ysgol o gefnogi dysgwyr fel cryfder allweddol hefyd. Mae staff yn defnyddio asesu’n effeithiol i fonitro cynnydd a darparu cefnogaeth arbennig o gryf i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, y rhai o aelwydydd incwm isel, a phlant o deuluoedd y lluoedd arfog.
Canmolodd yr arolygwyr gwricwlwm yr ysgol am gael ei lywio gan staff, llywodraethwyr, disgyblion a rhieni, gan sicrhau ei fod yn adlewyrchu’r gymuned leol a’r byd ehangach.
Tynnwyd sylw cadarnhaol hefyd at ddatblygiad llythrennedd a rhifedd disgyblion. Mae disgyblion yn cyfathrebu’n hyderus yn Saesneg, gan ddatblygu sgiliau siarad Cymraeg cryf. Addysgir darllen yn systematig, gan helpu disgyblion i ddod yn ddarllenwyr rhugl, ac mae darpariaeth mathemateg yn cefnogi datblygiad sgiliau rhif a rhesymu yn effeithiol.
Canmolwyd arweinwyr yr ysgol am gynnal ffocws clir ar lesiant a chynnydd disgyblion. Mae prosesau monitro a gwerthuso cadarn, ochr yn ochr â dysgu proffesiynol cryf y staff, yn sbarduno gwelliannau parhaus. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi’r defnydd effeithiol o gyllid grant i leihau effaith tlodi a chryfder partneriaethau â rhieni ac ysgolion eraill.
Dyfarnwyd ‘Sbotolau’ i’r ysgol, sy’n cydnabod arfer hynod effeithiol, sy’n werth ei rannu ag ysgolion eraill. Y sbotolau a nodwyd yw llyfrgell yr ysgol dan arweiniad disgyblion sy’n hyrwyddo diwylliant o ddarllen ar draws yr ysgol.
Dywedodd y Pennaeth, Louise John: “Rydym wrth ein bodd bod yr arolygiad wedi cydnabod cryfderau niferus yr ysgol ac rydym yn hynod falch o’n disgyblion, staff, llywodraethwyr a theuluoedd. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i welliant parhaus ac rydym yn croesawu teuluoedd presennol a darpar deuluoedd i’n Diwrnod Agored nesaf ddydd Mawrth, 12 Mai rhwng 3.30pm a 6pm.”