English icon English
Wythnos diogelu cenedlaethol 2025

Arfer cadarnhaol yn allweddol i Wythnos Genedlaethol Diogelu

Positive practice is key to National Safeguarding Week

Arfer Cadarnhaol wrth Ddiogelu yw thema rhaglen eang o ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ystod Wythnos Genedlaethol Diogelu, fydd yn dechrau ar 10 Tachwedd 2025.

Mae'r rhaglen wedi'i chydlynu gan CWMPAS a CYSUR, y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol, ac fe'i cynlluniwyd mewn ymateb i rai o'r themâu a'r materion diogelu yr ydym yn gwybod sy’n effeithio ar blant ac oedolion mewn perygl a'u teuluoedd yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Yn mynychu’r digwyddiadau fydd ymarferwyr sy'n gyfrifol am ddiogelu plant ac oedolion yn ein cymunedau, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, swyddogion yr heddlu, nyrsys, ymwelwyr iechyd, bydwragedd, athrawon a gweithwyr ieuenctid, yn ogystal ag aelodau o'r gymuned.

Un o uchafbwyntiau’r wythnos fydd cynhadledd i ymarferwyr amlasiantaethol, a gynhelir yn Yr Egin, Caerfyrddin.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar ran Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru gan y comedïwr, dychanwr, cymeriad teledu a gofalwr maeth seibiant Kiri Pritchard-McLean, a fydd yn ymgymryd â rôl Meistres y Seremoni yn y digwyddiad.

Bydd y gynhadledd yn cynnwys mewnbwn gan nifer o brif siaradwyr, gan gynnwys Tony Jenkyn, a gynhaliodd Adolygiad Dysgu i'r digwyddiadau trasig a ddigwyddodd yn Southport ym mis Gorffennaf 2024, a gweithdai a fydd yn cynnwys mewnbwn gan y rhai sydd â phrofiad bywyd o rai o'r materion fydd yn cael eu hystyried, gan gynnwys hunanladdiad.

Bydd nifer o ddigwyddiadau eraill yn cael eu cynnal drwy gydol yr wythnos ar gyfer staff sy'n gweithio yn y maes diogelu yn ogystal â'r gymuned.

Mae'r rhain yn cynnwys digwyddiadau a hwylusir gan elusennau adnabyddus gan gynnwys yr NSPCC, Llwybrau Newydd a MIND Llanelli, yn ogystal â gweminar staff a fydd yn rhannu gwersi a ddysgwyd o adolygiadau ymarferion oedolion ledled Cymru.

Dywedodd Michael Gray, Cadeirydd Bwrdd Diogelu Oedolion Canolbarth a Gorllewin Cymru: 

“Mae Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru yn falch iawn o gynnal rhaglen lawn o ddigwyddiadau i ymarferwyr yn ystod Wythnos Genedlaethol Diogelu 2025.

Bydd nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal trwy gydol yr wythnos, ac er bod y digwyddiadau hyn yn ymdrin â meysydd heriol, maent yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi ac arfogi yr holl staff sydd â chyfrifoldeb am ddiogelu, i helpu i amddiffyn a chefnogi plant ac oedolion yn ein cymunedau”.

Gallwch ddilyn Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol - Twitter @CYSURCymru, Facebook @CYSURCymru ac Instagram @cysurcymru i gael diweddariadau a gwybodaeth am ddiogelu drwy gydol yr wythnos. 

Wythnos Diogelu Genedlaethol: 10 i 14 Tachwedd 2025