Ysgol Prendergast yn ennill Gwobr Aur am gefnogaeth i’r Lluoedd Arfog
Prendergast School strikes Gold for Armed Services support
Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Prendergast yn Hwlffordd wedi sicrhau gwobr fawreddog sy’n tanlinellu ymrwymiad yr ysgol i gefnogi disgyblion a theuluoedd o’r Lluoedd Arfog.
Dyfarnwyd statws Aur Ysgol Gyfeillgar i’r Lluoedd Arfog Cymru i Ysgol Gynradd Gymunedol Prendergast, sef yr anrhydedd uchaf posibl.
Dywedodd Louise John, Pennaeth Ysgol Gynradd Gymunedol Prendergast, fod y staff wedi ymrwymo i sicrhau bod “disgyblion y Lluoedd Arfog yn teimlo eu bod yn cael croeso, yn cael eu deall, a’u bod yn gallu ffynnu.”
Ychwanegodd Ms John: “Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a chefnogi profiadau unigryw disgyblion o deuluoedd y Lluoedd Arfog.
“Gwnaethon ni gais am statws Aur Ysgol Gyfeillgar i’r Lluoedd Arfog Cymru gyda Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg Cymru (SSCE Cymru) i adlewyrchu’r gwaith parhaus rydyn ni wedi’i wneud i ymgorffori dealltwriaeth o fywyd y Lluoedd Arfog ar draws ein hysgol.
“Rydyn ni wedi datblygu dull ysgol gyfan sy’n blaenoriaethu adnabod cynnar, cyfathrebu cryf â theuluoedd, a chymorth bugeiliol.
“Bydd cyflawni statws Aur yn cydnabod ymrwymiad ein staff a’r arferion cynhwysol sydd eisoes ar waith, gan atgyfnerthu ein hymroddiad parhaus i gynnal lles, ymdeimlad o berthyn, a llwyddiant addysgol plant y Lluoedd Arfog.”
Er mwyn cyflawni statws Aur Ysgol Gyfeillgar i’r Lluoedd Arfog Cymru, bu’n rhaid i’r ysgol ddangos tystiolaeth o arfer da wrth gefnogi plant y Lluoedd Arfog, gan greu amgylchedd cadarnhaol i blant y Lluoedd Arfog rannu eu profiadau ac annog ymgysylltiad â chymuned y Lluoedd Arfog.
Roedd yr ysgol wedi ennill y gwobrau Efydd ac Arian yn flaenorol cyn sicrhau’r wobr Aur.
Dywedodd y Cynghorydd Simon Hancock, Hyrwyddwr Aelodau Cyngor Sir Penfro dros y Lluoedd Arfog: “Hoffwn longyfarch Ysgol Prendergast am ennill statws Aur Ysgol Gyfeillgar y Lluoedd Arfog Cymru, sy’n rhywbeth a chwenychir yn fawr.
“Fel rydw i wedi’i weld yn fy ymweliadau, mae’r ysgol yn ymgysylltu’n wirioneddol â chymuned y Lluoedd Arfog ac yn creu amgylchedd cadarnhaol a chefnogol i blant y Lluoedd Arfog.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Guy Woodham, yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg: “Mae hwn yn gydnabyddiaeth wych o’r gwaith campus parhaus sy’n cael ei wneud yn Ysgol Prendergast i gefnogi disgyblion a theuluoedd o’r Lluoedd Arfog, ac mae’n enghraifft wych o arfer da o ran sut i ymgymryd â’r gefnogaeth bwysig hon. Da iawn i bawb a fu’n rhan o’r gwaith.”