English icon English
Tenby - Dinbych y psygod

Paratoadau ar gyfer cynllun parth cerddwyr Dinbych-y-pysgod

Preparations underway for Tenby pedestrianisation scheme

Mae Cyngor Sir Penfro unwaith eto yn paratoi ar gyfer cynllun blynyddol Parth Cerddwyr Dinbych-y-pysgod.

Disgwylir i'r cynllun ddechrau ddydd Llun, 7 Gorffennaf a gorffen ddydd Gwener, 12 Medi rhwng 11am a 5.30pm bob dydd.

Bydd y cynllun unwaith eto yn gweld y Dref Gaerog yn cael ei rhannu'n dri pharth, a bydd gan bob un ohonynt raddau amrywiol o fynediad i gerbydau.

Bydd manylion llawn y cynllun a'r ffurflen gais ar-lein ar gael o ddydd Iau, 1 Mai ar wefan y Cyngor yn https://www.sir-benfro.gov.uk/dinbychypysgod-i-gerddwyr

Anogir trigolion a busnesau yn y Dref Gaerog i gwblhau'r broses ymgeisio cyn gynted â phosibl ar ôl i'r dogfennau fynd yn fyw.

Bydd hyn yn sicrhau bod digon o amser i'r cais gael ei brosesu ac i gynnal gwiriadau ychwanegol pe bai angen rhagor o wybodaeth.

Bydd trwyddedau'n cael eu rhoi tua 7 i 10 diwrnod cyn dyddiad dechrau'r cynllun.

Sylwch na fydd ffurflenni cais papur a nodiadau cyfarwyddyd yn cael eu dosbarthu i drigolion a busnesau yn y Dref Gaerog a bydd angen cyflwyno ceisiadau am drwyddedau ar-lein.

Er mwyn sicrhau llwyddiant parhaus y cynllun, anogir deiliaid trwydded i barhau i gynllunio teithiau y tu allan i oriau'r cynllun sef 11am – 5.30pm cyn belled ag y bo hynny'n ymarferol.

E-bostiwch Tenby.pedestrian@pembrokeshire.gov.uk am ragor o wybodaeth.