English icon English
Water tap - tap dŵr

Annog defnyddwyr cyflenwadau dŵr preifat i fod â chynlluniau wrth gefn ar waith

Private water supply users urged to have contingency plans in place

Mae dogfen newydd a luniwyd gan Gyngor Sir Penfro yn annog defnyddwyr cyflenwadau dŵr preifat i feddwl am ddiogelwch a digonolrwydd eu cyflenwad a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Cyflenwadau dŵr preifat yw'r rhai nad ydynt yn cael eu darparu gan gwmni dŵr statudol fel Dŵr Cymru.

Mae hyn yn cynnwys dŵr a geir o ffynhonnau, tyllau turio, tarddell, afonydd a nentydd, a llynnoedd a phyllau.

Mae'r wybodaeth yn annog y rhai hynny sy'n gyfrifol am gyflenwadau dŵr preifat i fod â chynlluniau wrth gefn ar waith rhag ofn i’r cyflenwad dŵr gael ei halogi neu ei fod yn rhedeg yn sych ac mae’n cynnwys rhestr wirio ddefnyddiol ar gyfer y cynllun wrth gefn.

Mae annigonolrwydd cyflenwad yn fwyfwy tebygol oherwydd hafau poeth estynedig o ganlyniad i newid hinsawdd.

Yr wythnos diwethaf cafodd Cymru ei rhoi o dan 'statws tywydd sych hir' gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae'r ddogfen 'Canllawiau ar ddigonolrwydd eich cyflenwad dŵr preifat' yn tynnu sylw at y ffaith mai cyfrifoldeb perchennog/meddiannwr y safle yw’r cyflenwad dŵr preifat, y perchennog/meddiannwr lle mae'r ffynhonnell wedi'i lleoli a/neu unrhyw berson arall sy'n rheoli’r ffynhonnell.

Dylai cynlluniau wrth gefn gynnwys trefniadau ar gyfer darparu cyflenwad dŵr amgen a dylent ystyried faint o ddŵr sydd ei angen a'r math o gyflenwad arall - e.e. dŵr potel, bowser, tancer ac ati.

Mae'r ddogfen yn annog y rhai sy'n gyfrifol i ddeall beth yw ffynhonnell y dŵr, pwy sy'n ei ddefnyddio, at ba ddibenion ac a yw'r cyflenwad erioed wedi rhedeg yn sych o'r blaen.

Argymhellir gwiriadau rheolaidd ar y cyflenwad, yn enwedig yn ystod tywydd cynnes a sych. Mae gwiriadau ar ansawdd y cyflenwad hefyd yn bwysig a gall Awdurdodau Lleol ddarparu arweiniad ar samplu er mwyn ei ddadansoddi.

Gallwch ddod o hyd i'r ddogfen ar-lein yn: https://www.sir-benfro.gov.uk/anifeiliaid-plau-a-llygredd/canllawiau-ar-ddigonolrwydd-eich-cyflenwad-dwr-preifat 

Am gopi caled o'r ddogfen, e-bostiwch pollution.control@pembrokeshire.gov.uk

Mae rhagor o wybodaeth am gyflenwadau dŵr preifat ar gael yn: https://www.sir-benfro.gov.uk/rheoli-llygredd