English icon English
Outside white building with stone and grey windows with paved drive.

Prynu eiddo ac adeiladu tai yn hwb i’r cyflenwad o dai cymdeithasol

Property purchases and house building boost social housing stock

Mae Cyngor Sir Penfro yn parhau â'i ymgyrch i gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol sydd ar gael a diwallu'r angen am dai yn lleol drwy brynu eiddo addas ar draws y Sir.

Yn ystod y flwyddyn ariannol 2023-2024, prynodd y Cyngor 47 eiddo, sydd wedi’u lleoli ar draws Sir Benfro. Roedd y rhain yn cynnwys cyfuniad o gartrefi un i bedair ystafell wely a bloc newydd o fflatiau yn Aberllydan.

Prynir y rhan fwyaf o'r caffaeliadau gyda chymorth grant a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru, i helpu Cynghorau i leddfu prinder tai.

Mae'r Cyngor wedi cwblhau 16 o bryniannau eiddo hyd yn hyn yn ystod y flwyddyn ariannol hon ac mae nifer o rai eraill ar y gweill.

Mae'r caffaeliadau hyn yn ategu rhaglen datblygu tai CSP, sydd wedi gweld safleoedd yn Johnston a Tiers Cross yn cael eu cwblhau yn 24/25.

Mae'r cyfuniad o gaffaeliadau ac adeiladau newydd wedi ychwanegu 107 o dai cymdeithasol at gyflenwad tai'r Cyngor ers 2023.

Yn ystod y cyfnod hwnnw mae'r Cyngor hefyd wedi cymryd y cyfrifoldeb am 17 eiddo preifat drwy gynllun lesio'r sector rhentu preifat, Cynllun Lesio Cymru, y mae Awdurdodau Lleol yn ei gynnal ar ran Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, yr Aelod Cabinet Tai: "Mae ein rhaglen gaffaeliadau lwyddiannus wedi ein galluogi i ychwanegu eiddo i'n cyflenwad yn gyflym i ddarparu cartrefi i'r rhai sydd ar ein cofrestr dai.

“Mae'r rhaglen hon yn cyd-fynd â'n rhaglen ddatblygu ac mae'n rhan o'n strategaeth tai i fynd i'r afael â'r diffyg tai fforddiadwy yn Sir Benfro."

Mae'r Cyngor hefyd yn parhau i weithio mewn partneriaeth â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, landlordiaid sector rhentu preifat a datblygwyr preifat i ddatblygu tai fforddiadwy y mae mawr eu hangen.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau sy'n ymwneud â thai fforddiadwy, gallwch gysylltu â 01437 764551 neu affordablehousing@pembrokeshire.gov.uk.