
Prosiect adfywio Hwlffordd yn parhau i ddarparu buddion i’r gymuned
Haverfordwest regeneration project continues delivery of community benefits
Mae rhaglen Cyngor Sir Penfro i adfywio Hwlffordd yn parhau i ddarparu buddion parhaol i’r dref.
Fel rhan o gontract cam 2 y rhaglen i osod pont droed newydd ac adfywio Cei’r Gorllewin, gwnaed gwelliannau i’r cyfleusterau cymunedol yn lôn Bridge Meadow, gan ymestyn rhan o’r maes parcio a’r llwybr troed a gosod wyneb newydd arni.
Gwnaed y gwaith hwn gan Walters, sef y prif gontractwr ar gyfer y bont newydd a’r gwelliannau a wnaed i dir y cyhoedd Cei’r Gorllewin, ar ran Cyngor Sir Penfro.
Mae’r prosiect wedi creu rhagor o leoedd parcio ar gyfer y rheini sy’n defnyddio’r clwb pêl-droed ac yn ymweld â llwybr cerdded poblogaidd Glan Cleddau. Mae hefyd wedi uwchraddio’r llwybr cysylltu i wneud yr ardal yn fwy hygyrch i’r gymuned ehangach.
Mae’r gwaith hwn wedi’i wneud mewn partneriaeth â Bridge Meadow Haverfordwest Trust, sef elusen a reolir gan Gyngor Tref Hwlffordd.
Fel rhan o’r rhaglen, gosodwyd arwyddion newydd ar gyfer llwybr cerdded Glan Cleddau, addaswyd y storfa finiau o safle’r llyfrgell at ddibenion Gardd Gymunedol Havergardd, a noddwyd Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd i fynd ar daith rygbi i Dde Affrica.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Paul Miller: “Mae’r buddion hyn i’r gymuned yn rhan o raglen adfywio ehangach Cyngor Sir Penfro, sy’n sicrhau bod prosiectau mawr nid yn unig yn darparu seilwaith newydd ond hefyd yn darparu gwerth cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd parhaol i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.”
Dywedodd yr aelod lleol, y Cynghorydd Thomas Tudor: “Fel Cynghorydd Sir dros Ward Castell Hwlffordd, rwy’n croesawu’r dull partneriaeth gymunedol hwn gyda Walters a Bridge Meadow Haverfordwest Trust i ymestyn rhan o’r maes parcio a gosod wyneb newydd arno.
“Bydd hyn yn cael ei werthfawrogi’n fawr iawn gan y rheini sy’n defnyddio Clwb Pêl-droed Sir Hwlffordd ac sy’n ymweld â llwybr cerdded poblogaidd Glan Cleddau. Fel rhan o’r rhaglen, gwnaed gwelliannau i’r llwybr cysylltu, gan gynnwys gosod arwyddion newydd ar gyfer llwybr cerdded Glan Cleddau a noddwyd disgyblion Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd i fynd ar daith i Dde Affrica. Mae hyn yn newyddion ardderchog i bawb.”
Dywedodd Thomas Morris, Rheolwr Prosiect ymddiriedolaeth Walters: “Rydym yn falch iawn o allu cefnogi’r gymuned leol gyda’r gwelliannau hyn ochr yn ochr â’r nawdd rydym wedi’i darparu i Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd i fynd ar daith i Dde Affrica. Fel cwmni lleol sy’n falch o Gymru, rydym yn deall mor bwysig yw rhoi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau rydym yn gweithio ynddyn nhw. Rydym hefyd yn falch iawn o allu dweud bod y bont droed wedi’i dylunio, ei chynhyrchu a’i hadeiladu yng Nghymru ac yn gobeithio y bydd y gymuned yn falch ohoni am flynyddoedd i ddod.”
Dywedodd y Cynghorydd Roy Thomas, Is-gadeirydd Bridge Meadow Haverfordwest Trust:
“Mae’r gwaith a wnaed i osod cerrig newydd ar y maes parcio a’r llwybr troed wedi’i groesawu’n fawr iawn gan y gymuned, gan fod o fudd nid yn unig i noddwyr Clwb Pêl-droed Sir Hwlffordd, ond hefyd i’r nifer fawr o bobl sy’n parcio yma i fwynhau ardal Bridge Meadow yn gyffredinol.
“Rydym yn ddiolchgar i Walters am gyflawni’r gwelliannau hyn i safon mor uchel, ac i Dîm Adfywio Cyngor Sir Penfro am sicrhau bod y prosiect hwn wedi’i gynnwys yn y rhaglen ehangach o welliannau i’r dref. Bydd y gwaith hwn yn parhau i ddarparu budd parhaol i’n cymuned ac ymwelwyr fel ei gilydd.”
Yn y llun mae’r Cynghorydd Tom Tudor, y Cynghorydd Alun Wills, Maer Hwlffordd, y Cynghorydd Roy Thomas, gydag aelodau o Bridge Meadow Haverfordwest Trust, Walters a thîm adfywio Cyngor Sir Penfro.