English icon English
Swyddogion grant gydag aelodau o brosiectau lleol mewn digwyddiad yn dathlu eu llwyddiant

Prosiectau cymunedol yn dathlu eu llwyddiannau gyda chyllid Lywodraeth y DU

Community projects celebrate their UK Government funding successes

Daeth digwyddiad dathlu â 25 o brosiectau cymunedol ynghyd sydd wedi elwa o fwy na £1.3 miliwn o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn Sir Benfro.

Hwylusodd Cyngor Sir Penfro y rhaglen ddatblygu ar gyfer sefydliadau'r trydydd sector a mentrau cymdeithasol a oedd yn cwmpasu tri maes ymyrraeth ar draws y Sir – prosiectau cyfalaf, seilwaith gwyrdd a gweithredu cymdeithasol.

Mae’r ystod amrywiol o brosiectau yn cynnwys cyfleusterau cymunedol, prosiectau ieuenctid, safleoedd tyfu, gweithredu i godi ymwybyddiaeth amgylcheddol, therapi anifeiliaid anwes, amgueddfeydd a mwy.

Daeth arweinwyr y prosiectau at ei gilydd yn HaverHub, Hwlffordd ar 22 Ionawr i ddathlu a thrafod canlyniadau eu gwaith, y rhan fwyaf wedi rhagori ar dargedau a rhai cyflawniadau syfrdanol yn cael sylw.

Mae rhai llwyddiannau allweddol sydd eisoes wedi'u harddangos yn cynnwys gwella neu greu tua 25,764m² o fannau hygyrch i'r cyhoedd, cefnogi 934 o ddigwyddiadau neu weithgareddau cymunedol a chreu/cefnogi 2228 o gyfleoedd gwirfoddoli gydag adroddiadau terfynol i'w cyflwyno o hyd.  

Dywedodd Heidi Holland, Cydlynydd Cymunedau'r Gronfa Ffyniant Gyffredin: "Mae'r rhwydwaith hwn o sefydliadau wedi cryfhau ac elwa ar gyfleoedd i ddod ynghyd, ymweld â phrosiectau eraill, rhannu arfer da a pharodrwydd i ddatblygu dulliau cydweithredol fel etifeddiaeth yn y dyfodol i gael effaith ar genedlaethau'r dyfodol."

Ymhlith y rhai yn y digwyddiad roedd Cilrath Acre, Sandy Bear, Prosiect Cleddau, Amgueddfa Forwrol a Threftadaeth Aberdaugleddau, Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru, Point - Prosiect Ieuenctid Abergwaun ac Wdig a Menter Iaith Sir Benfro.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Miller, Aelod o’r Cabinet (Arweinydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin): "Roedd yn wych gweld ystod mor eang o brosiectau, o bob rhan o Sir Benfro, sydd wedi elwa o Gyllid Cymunedau'r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Bydd cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn ail-lansio ym mis Ebrill 2025 ac edrychwn ymlaen at allu cefnogi mwy o sefydliadau ledled y sir i gyflawni gwelliannau ystyrlon yn eu cymunedau.”