Gwahodd y cyhoedd i weld arddangosfa o’r dyluniadau newydd ar gyfer Canolfan Harri Tudor
Public invited to view new Henry Tudor Centre exhibition designs
Gwahoddir aelodau o'r cyhoedd i weld arddangosfa o’r dyluniadau sy’n cael eu datblygu ar gyfer y Ganolfan Harri Tudur newydd sydd i fod i agor yng Ngwanwyn 2027 yng Nghei y De, Penfro.
Bydd dyluniadau'r arddangosfa yn cael eu harddangos yn Neuadd y Dref Penfro rhwng 22 Mai a 29 Mai.
Mae Ymddiriedolaeth Harri Tudur, a fydd yn gweithredu'r ganolfan dreftadaeth newydd, yn gwahodd y cyhoedd i roi adborth ar sut y dylid adrodd hanes Harri Tudur – un a oedd o Benfro a ddaeth yn Harri VII ac a sefydlodd un o'r llinachau mwyaf dylanwadol yn hanes Prydain, y Tuduriaid.
Mae'r dyluniadau wedi'u datblygu gan ddylunwyr yr arddangosfa, Image Makers. Bydd ffurflenni adborth ar gael er mwyn nodi sylwadau a fydd yn helpu i fireinio'r dyluniadau wrth iddynt ddatblygu.
Bydd y logo newydd ar gyfer y ganolfan hefyd yn cael ei arddangos. Mae hwn wedi'i greu gan gwmni marchnata Media2Motion o Hwlffordd.
Bydd yr arddangosfa newydd hon wedi’i lleoli yng Nghanolfan Harri Tudur yng Nghei De Penfro lle mae gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i adnewyddu'r adeilad Gradd II rhestredig.
Bydd y Ganolfan yn cynnwys llyfrgell gyhoeddus newydd hefyd (yn lle'r llyfrgell ar dir y Comin) a chaffi.
Mae'r prosiect cyfalaf sydd ar waith ar hyn o bryd wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Chyngor Sir Penfro.
Mae cyllid ychwanegol wedi dod gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i gefnogi rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn y Ganolfan newydd, rhaglen wirfoddoli ac adnoddau addysgol i ysgolion.
Oriau agor Neuadd y Dref Penfro, i weld cynlluniau'r arddangosfa, yw dydd Llun i ddydd Iau 9am i 3pm a dydd Gwener 9am i 1pm (ar gau ddydd Sadwrn a dydd Sul).
Nodiadau i olygyddion
Ynglŷn â Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Ein gweledigaeth yw i dreftadaeth gael ei gwerthfawrogi, ei gwarchod a'i chynnal i bawb, nawr ac yn y dyfodol. Dyna pam fel y cyllidwr mwyaf ar gyfer treftadaeth y DU rydym yn ymroddedig i gefnogi prosiectau sy'n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth, fel y nodir yn ein cynllun strategol, Treftadaeth 2033. Gall treftadaeth fod yn unrhyw beth o'r gorffennol y mae pobl yn ei werthfawrogi ac eisiau ei warchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rydym yn credu yng ngrym treftadaeth i danio'r dychymyg, cynnig llawenydd ac ysbrydoliaeth, ac i greu balchder yn y lle a chysylltiad â'r gorffennol.
Dros y 10 mlynedd nesaf, ein nod yw buddsoddi £3.6 biliwn a godwyd ar gyfer achosion da gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i wneud gwahaniaeth pendant i bobl, lleoedd a chymunedau.