English icon English
llyfrau

Cwrdd cyhoeddus i drafod dyfodol posib Llyfrgell Fishguard

Public meeting to discuss potential future operation of Fishguard Library

Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf i drafod modelau gweithredu posibl yn y dyfodol ar gyfer y llyfrgell gyhoeddus yn Neuadd y Dref Abergwaun.

Mae'r cyfarfod am 6.30pm ddydd Llun 14 Gorffennaf yn Neuadd y Dref Abergwaun yn rhan o ymgynghoriad ehangach sydd wedi’i drefnu ar y cyd gan Gyngor Sir Penfro a Chyngor Tref Abergwaun ac Wdig (CTAW) – ceir rhagor o fanylion isod.

Mae CTAW yn ystyried cymryd yr awenau yn Neuadd y Dref fel rhan o Drosglwyddiad Ased Gymunedol.

Bwriad yr ymgynghoriad yw clywed barn y cyhoedd ar yr opsiwn gorau i leihau costau rhedeg y llyfrgell i'w gwneud yn gynaliadwy yn ariannol yn ei lleoliad presennol.

Mae gweithgor ar y cyd sy’n cynnwys aelodau o CSP a CTAW wedi'i sefydlu i ymchwilio i wahanol opsiynau ac mae ganddynt ddiddordeb mewn clywed barn y cyhoedd ar y potensial ar gyfer creu Llyfrgell Bartneriaeth a Reolir gan y Gymuned, gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr lleol.

Bydd y cyfarfod yn canolbwyntio ar sut mae Llyfrgell Partneriaeth a Reolir gan y Gymuned yn gweithredu, ac i sefydlu a fyddai gan ddigon o bobl leol ddiddordeb mewn gwirfoddoli.

Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu mai hwn fydd yr opsiwn fydd yn cael ei ddewis yn dilyn yr ymgynghoriad, ond mae’n opsiwn mwy cymhleth i'w esbonio, a dyma’r rheswm dros gynnal y cyfarfod cyhoeddus.

Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ddydd Iau 10 Gorffennaf ac yn cau ddydd Mercher 20 Awst, am 5pm.

Bydd dogfennau’r ymgynghoriad ar gael ar-lein yn: https://www.sir-benfro.gov.uk/dweud-eich-dweud/ymgynghoriadau o ddydd Iau, 10 Gorffennaf, a bydd copïau papur ar gael yn Gymraeg a Saesneg o Neuadd y Dref o'r un dyddiad.

Yr opsiynau i'w hystyried yn yr ymgynghoriad yw:

Opsiwn 1: Adleoli'r llyfrgell i safle llai mewn man arall yn yr ardal. Lleoliad i'w benderfynu.

Opsiwn 2: Rhannu lle yn y llyfrgell bresennol gyda thrydydd parti, er enghraifft siop neu gaffi.

Opsiwn 3: Cynyddu'r cyfraniad ariannol blynyddol gan Gyngor y Dref.

Opsiwn 4: Lleihau oriau agor y llyfrgell.

Opsiwn 5: Creu Partneriaeth Llyfrgell a Reolir gan y Gymuned.

Opsiwn 6: Cau’r llyfrgell a rhoi darpariaeth llyfrgell symudol ar waith.

Disgrifir yr holl opsiynau uchod yn fanylach yn nogfennau’r ymgynghoriad.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trigolion: "Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw'r llyfrgell yn Neuadd y Dref Abergwaun i bobl leol ac ochr yn ochr â Chyngor Tref Abergwaun ac Wdig ein bwriad yw sicrhau cydbwysedd sy'n golygu bod y ddarpariaeth llyfrgell yn parhau tra hefyd yn darparu arbedion.

“Manteisiwch ar y cyfle i ddarllen dogfennau’r ymgynghoriad pan fyddant ar gael a dewch i'r cyfarfod cyhoeddus ddydd Llun 14 Gorffennaf, 6.30pm yn Neuadd y Dref i glywed mwy.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Tref Abergwaun ac Wdig: "Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw Llyfrgell Abergwaun i'n cymunedau ac rydym am sicrhau parhad y gwasanaeth gwych a ddarperir gan staff y llyfrgell, gan gydnabod yr angen i leihau costau.

"Mae'n bwysig felly bod pobl yn manteisio ar y cyfle hwn i rannu eu meddyliau a'u barn a byddai Cyngor y Dref yn annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn ac i ddod i’r cyfarfod cyhoeddus ar 14 Gorffennaf."