English icon English
Council Tax premium consultation - Ymgynghoriad premiwm Treth y Cyngor

Eisiau barn y cyhoedd ar bremiymau'r dreth gyngor

Public’s views wanted on Council tax premiums

Gofynnir i aelodau'r cyhoedd roi adborth ar bremiymau'r Dreth Gyngor yn Sir Benfro.

Mae Cyngor Sir Penfro yn cynnal ymgynghoriad ar y premiymau sy'n berthnasol i ail-gartrefi a chartrefi gwag hirdymor.

Mae'r ymgynghoriad yn ceisio barn ar:

  • Premiymau'r Dreth Gyngor ar gyfer ail gartrefi am 2026-27
  • Premiymau'r Dreth Gyngor ar gyfer cartrefi gwag hirdymor am 2026-27
  • Sut y dylid gwario unrhyw gyllid a godir o'r premiymau yn 2026-27.
  • A ddylai Llywodraeth Cymru newid isafswm nifer y diwrnodau y mae'n rhaid gosod eiddo er mwyn bod yn gymwys i gael statws treth llety hunanarlwyo Ardrethi Annomestig
  • ac a ddylai'r Cyngor ddefnyddio ei ddisgresiwn i eithrio llety gwyliau sy'n trosglwyddo o ardrethi annomestig i'r dreth gyngor o unrhyw bremiwm.

Mae'r ymgynghoriad yn darparu cyd-destun a gwybodaeth gefndirol am bremiymau presennol y Dreth Gyngor a thai yn lleol.

Mae hefyd yn darparu'r diffiniadau o ail gartrefi, cartrefi gwag hirdymor, eithriadau a llety gwyliau.

Dywedodd y Cynghorydd Alistair Cameron, Aelod Cabinet y Cyngor ar faterion Cyllid Corfforaethol ac Effeithlonrwydd: "Hoffem glywed gan gymaint o aelodau o'r cyhoedd â phosibl ar y mater hwn o bremiymau'r dreth gyngor a sut maent yn cael eu defnyddio.

“Bydd y Cabinet yn ystyried unrhyw newidiadau i bremiymau'r Dreth Gyngor yn ddiweddarach eleni felly mae'n bwysig bod gennym yr holl wybodaeth ar gael i ni i helpu i wneud penderfyniadau.”

Sut i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad:

Gellir cwblhau'r ymgynghoriad yn https://www.sir-benfro.gov.uk/dweud-eich-dweud/ymgynghoriadau

https://www.sir-benfro.gov.uk/dweud-eich-dweud/ymgynghoriad-premiwm-y-dreth-gyngor-2025

Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd ac yr hoffech ymateb, ffoniwch 01437 764551 neu e-bostiwch revenue.services@pembrokeshire.gov.uk a gellir anfon ffurflen ymateb copi caled atoch.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion wedi'u cwblhau yw dydd Sul, 31 Awst 2025.