Annog y cyhoedd i roi eu barn ar ddyfodol gwastraff ac ailgylchu yn Sir Benfro
Public urged to have say on future of waste and recycling in Pembrokeshire
Mae strategaeth amgylcheddol ddrafft, sy'n ymdrin â chynigion ar gyfer dyfodol gwastraff ac ailgylchu, glanhau strydoedd a mannau gwyrdd yn Sir Benfro wedi cael ei lansio gan Gyngor Sir Penfro.
Gwahoddir aelodau'r cyhoedd i roi adborth ar Strategaeth Gwasanaethau Amgylcheddol Drafft 2025-2030.
Dros yr 20 mlynedd diwethaf mae Cyngor Sir Penfro wedi llwyddo i gyflwyno nifer o newidiadau sydd wedi gosod yr Awdurdod yn rheolaidd ymhlith y cynghorau sy'n perfformio orau yng Nghymru ym maes ailgylchu.
Fodd bynnag, mae mwy i'w wneud a chanfu dadansoddiad manwl o wastraff cartref a wnaed yn 2022 y gellid ailgylchu 48% o'r deunyddiau sy’n cael ei roi mewn bagiau du yn Sir Benfro.
Mae'r strategaeth yn amlinellu cynigion ynghylch gwelliannau i ailgylchu gan gynnwys cyflwyno ailgylchu ychwanegol wrth ymyl y ffordd a newidiadau i gasgliadau gwastraff gweddilliol (bagiau duon).
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros Wasanaethau Trigolion: "Nod y strategaeth yw adolygu'r opsiynau gorau sydd ar gael i Sir Benfro i gyflawni ei dyheadau amgylcheddol o leihau gwastraff ac annog ailgylchu, ailddefnyddio ac atgyweirio, a gwella’r amgylchedd lleol.
“Mae ystyried eich barn yn rhan hanfodol o broses gwneud penderfyniadau'r Cyngor ac mae'r Cyngor yn agored i syniadau y gallai fod gan gartrefi a busnesau i helpu i gyflawni'r Strategaeth Gwasanaethau Amgylcheddol.”
Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar gyflawni pedair blaenoriaeth allweddol:
- Gwella atal ac ailddefnyddio ein hadnoddau.
- Lleihau gwastraff cyffredinol a gynhyrchir fesul cartref.
- Gwella opsiynau ailddefnyddio drwy Ganolfannau Gwastraff ac Ailgylchu.
- Adeiladu ar ein perfformiad ailgylchu yn unol â'r economi gylchol a Sero Net
- Parhau i fodloni targedau ailgylchu statudol.
- Ehangu gwasanaeth ailgylchu ymyl y ffordd i'w gwneud yn haws ailgylchu mwy o ddeunyddiau gartref, cynyddu ailgylchu, a hybu cadw deunyddiau mewn cylchrediad.
- Lleihau gwastraff gweddilliol, drwy adolygu amlder a chapasiti casgliadau gweddilliol (gan gynnwys casgliad pob pedair wythnos), i gynyddu incwm ailgylchu a lleihau costau gwaredu.
- Gwella cynaliadwyedd ein strydoedd, traethau a mannau gwyrdd
- Darparu atebion cynaliadwy a chost-effeithiol i gynnal a gwella’r amgylchedd lleol, ansawdd tir y cyhoedd a'i gyfleusterau.
- Gwelliannau mewn cydnerthedd ecolegol trwy brosiectau sy'n ymwneud â chadwraeth bioamrywiaeth, gwella ecosystemau ac addasu i newid hinsawdd trwy amddiffyn cynefinoedd.
- Ymgysylltu a chydymffurfio drwy newid ymddygiad
- Darparu rhaglen gyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol.
- Sicrhau bod aelwydydd yn cymryd rhan ac yn ailgylchu yr holl wastraff y gellir ei ailgylchu drwy gefnogi trigolion a busnesau sy'n ei chael hi'n anodd ailgylchu a rheoli eu gwastraff.
- Annog trigolion, busnesau ac ymwelwyr i ailgylchu gartref, yn y gwaith ac "yma ac acw”
- Atal Troseddau Amgylcheddol, gan gynnwys tipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel.
Gallwch roi eich barn drwy lenwi'r ffurflen ymateb ar-lein.
Os hoffech gael copi papur, ffoniwch ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar 01437 764551 neu e-bostiwch wasteandrecycling@pembrokeshire.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 19 Chwefror 2025.