English icon English
Van county hall - Neuadd y Sir fan

Eisiau barn y cyhoedd ar Hunanasesiad blynyddol y Cyngor

Public views wanted on Council’s annual Self-Assessment

Bob blwyddyn mae Cyngor Sir Penfro yn cyhoeddi hunanasesiad o berfformiad y Cyngor.

Mae'r asesiad yn ystyried a yw'r Cyngor yn:

  • cyflawni ei swyddogaethau'n effeithiol
  • defnyddio adnoddau'n ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol
  • rhoi llywodraethu effeithiol ar waith i sicrhau'r uchod

Mae'r hunanasesiad yn ymwneud â sut mae'r sefydliad yn gweithredu yn ei gyfanrwydd ac nid yw'n asesiad o berfformiad gwasanaeth unigol.

Mae ystyried barn y cyhoedd yn rhan hanfodol o'r broses adolygu.

Gallwch roi eich barn drwy gwblhau arolwg ymgynghoriad hunanasesiad blynyddol 2023-24

Mae copi o Hunanasesiad Blynyddol 2023-24 ar gael i chi ei weld.

Os hoffech gael copi papur o'r ffurflen ymateb, ffoniwch y Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar 01437 764551.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw dydd Gwener, 11 Hydref, 2024.