Disgyblion yn datblygu cariad at chwaraeon newydd mewn digwyddiad clybiau cymunedol
Pupils develop love of new sports at Community Clubs event
Mwynhaodd mwy na 100 o ddisgyblion o Flynyddoedd 4, 5 a 6 ddiwrnod o chwaraeon a gweithgareddau mewn digwyddiad clybiau cymunedol a gynhaliwyd yn Ysgol Glannau Gwaun yn gynharach y mis hwn.
Rhoddodd y digwyddiad, a drefnwyd gan Chwaraeon Sir Benfro ac a noddwyd gan Valero, gyfle i bobl ifanc roi cynnig ar amrywiaeth o chwaraeon y mae clybiau lleol yn eu cyflwyno.
Roedd y gweithgareddau’n cynnwys sesiynau saethyddiaeth a golff dan arweiniad Llysgenhadon Ifanc o Ysgol Bro Gwaun, ochr yn ochr â rygbi gyda Chlwb Rygbi Abergwaun ac Wdig, hoci gyda Chlwb Hoci Abergwaun ac Wdig, a bowlio gyda Chlwb Bowlio Abergwaun ac Wdig.
Nod y cynllun oedd annog pobl ifanc i gymryd rhan, meithrin hyder, a chryfhau cysylltiadau rhwng ysgolion a chlybiau chwaraeon cymunedol, gan helpu disgyblion i ddarganfod cyfleoedd newydd i aros yn egnïol y tu allan i'r ysgol.
Dywedodd Dan Bellis o Chwaraeon Sir Benfro: “Hon oedd yr ail flwyddyn i ni gynnal y digwyddiad hwn ac fel y llynedd roedd yn wych gweld cymaint o blant yn cymryd rhan ac yn bod yn egnïol.
“Diolch yn fawr i’r holl fyfyrwyr am eu brwdfrydedd, i’r clybiau lleol am eu cefnogaeth a’u cyflwyniad, ac i’r Llysgenhadon Ifanc am fod yn fodelau rôl rhagorol.”