
Annog Disgyblion gadw symud gartref gyda Menter Bagiau Gweithgareddau yr Haf
Pupils encouraged to keep moving at home with Summer Activity Bag Initiative
Daeth menter lles newydd â hwb o egni i wyliau ysgol ledled Sir Benfro dros yr haf.
Derbyniodd disgyblion a oedd yn mynychu rhaglen Bwyd a Hwyl 2025 fagiau gweithgareddau am ddim a gynlluniwyd i'w helpu i gadw'n egnïol, chwarae gyda'i gilydd, ac aros yn iach gartref.
Datblygwyd ac ariannwyd y fenter fel prosiect cydweithredol rhwng Chwaraeon Sir Benfro, Ysgolion sy'n Hyrwyddo Iechyd a Llesiant Sir Benfro, a'r Ymagwedd Ysgol Gyfan at Les Emosiynol a Meddyliol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Fe'i cynlluniwyd i ategu rhaglen Bwyd a Hwyl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Rhoddwyd bag gweithgareddau am ddim i bob un o'r 480 o blant a fynychodd y rhaglen haf mewn ysgolion dethol i fynd adref gyda nhw, i annog symud a chwarae y tu hwnt i dir yr ysgol.
Ymhlith yr ysgolion a gymerodd ran roedd Ysgol Gelli Aur, Ysgol Gynradd Gymunedol Aberdaugleddau, Ysgol Gynradd WRh Gelliswick, Ysgol Wdig, Ysgol Gynradd Johnston, Ysgol Gynradd Neyland, ac Ysgol Gynradd Fenton.
Roedd pob bag yn cynnwys adnoddau syml, hwyliog fel peli, bat, marcwyr sbot a bagiau ffa - i gyd wedi'u dewis i annog ymarfer corff gartref gyda ffrindiau a theulu.
Esboniodd Matthew Freeman o Chwaraeon Sir Benfro'r meddylfryd y tu ôl i'r prosiect: "Roeddem eisiau rhoi rhywbeth hwyliog ac ymarferol i blant i'w helpu i gadw'n egnïol gyda'u teuluoedd yn ystod y gwyliau. Mae'r bagiau hyn yn cefnogi hyder, lles, ac agwedd gadarnhaol at symud - a gall hynny bara ymhell y tu hwnt i wyliau'r haf.”
Mae'r prosiect yn adlewyrchu nod a rennir ymhlith partneriaid i hyrwyddo iechyd a lles gydol oes trwy gefnogi plant nid yn unig yn yr ysgol, ond yn eu hamgylcheddau cartref hefyd.
Dywedodd Liz Western, Uwch Swyddog Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac arweinydd y rhaglen Ysgolion Iach: "Mae'r math hwn o fenter yn helpu i ymgorffori arferion iach o oedran ifanc. Mae'r bagiau yn ymwneud â mwy nag ymarfer corff - maen nhw'n hyrwyddo chwarae, cysylltiad, a'r math o symudiad dyddiol sy'n dda i gyrff a meddyliau plant.”
Yn Ysgol Wdig, gwelodd y Pennaeth Jonathan Jones yr effaith yn uniongyrchol: "Pan dderbyniodd y disgyblion eu bagiau, roedden nhw'n llawn cyffro - yn siarad am sut y byddent yn eu defnyddio gyda'u teuluoedd gartref, yn yr ardd, neu'r parc. Mae'n annog gweithgarwch nid yn unig i'r plant, ond i deuluoedd cyfan. Y math o effaith sy’n cael ei drosglwyddo o un i’r llall yw'r union beth rydyn ni'n gobeithio amdano.”
Mae'r adborth cychwynnol gan deuluoedd a staff wedi bod yn hynod gadarnhaol, ac mae cynlluniau bellach yn cael eu harchwilio i ehangu'r fenter i gyrraedd hyd yn oed mwy o ddisgyblion mewn cyfnodau gwyliau yn y dyfodol.