
Digwyddiad aml-chwaraeon i ddisgyblion yn taro'r targed
Pupils’ multi-sports event hits the target
Mae mwy na 60 o ddisgyblion wedi mwynhau rhoi cynnig ar amrywiaeth o wahanol chwaraeon mewn digwyddiad arbennig o Chwaraeon Sir Benfro a gynhaliwyd yn gynharach y mis hwn.
Cynhaliwyd y digwyddiad yn Ysgol Glannau Gwaun ddydd Mercher 11 Mehefin gyda 65 o ddisgyblion o Flynyddoedd 4,5 a 6 a'r uned ADY yn cymryd rhan.
Cynhaliwyd y sesiynau gan glybiau cymunedol lleol a Llysgenhadon Ifanc o Ysgol Bro Gwaun gyda disgyblion yn cael mwynhau rygbi, criced, hoci, saethyddiaeth a golff.
Dywedodd Sharon Osborne o Ysgol Glannau Gwaun: "Diolch i Chwaraeon Sir Benfro am drefnu bore gwych o weithgareddau i'n disgyblion. Fe wnaethon nhw i gyd fwynhau eu hunain yn fawr."
Ychwanegodd Dan Bellis o Chwaraeon Sir Benfro: "Diolch yn fawr i Glwb Hoci Abergwaun ac Wdig, Clwb Rygbi Abergwaun ac Wdig a'r Llysgenhadon Ifanc o Ysgol Bro Gwaun am gynnal bore gwych o weithgareddau yn yr haul bendigedig!
“Da iawn i holl ddisgyblion Ysgol Glannau Gwaun am eu hymdrech a'u brwdfrydedd drwy gydol y bore.”