Disgyblion yn cymryd i’r llwyfan ar gyfer cystadlaethau dawns
Pupils take centre stage for dance competitions
Mae dros 230 o ddisgyblion Sir Benfro wedi cymryd rhan mewn cystadlaethau dawns cyffrous ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd.
Cynhaliodd Chwaraeon Sir Benfro gystadleuaeth ddawns ar gyfer ysgolion cynradd ar 19 Mawrth yng Nghanolfan Hamdden Abergwaun.
Cymerodd saith ysgol o bob rhan o’r sir, a mwy na 160 o ddisgyblion ran, gan gynnwys bechgyn a merched o flynyddoedd ysgol 3-6.
Dawnsio pob arddull a dawnsio stryd oedd y categorïau y gallai timau, unigolion a pharau gystadlu ynddyn nhw. Roedd 55 o berfformwyr unigol yn cystadlu yn y categori dawnsio stryd unigol.
Perfformiodd disgyblion o Ysgol Bro Gwaun ddawns grŵp a pherfformiodd rhai ohonyn nhw ddawnsfeydd unigol gwych i’r disgyblion cynradd eu gwylio.
Finola (FF Dancers), Kelly (Kelly Williams School of Dance) a Lowri (Lowri Jones School of Dance) oedd yn gyfrifol am feirniadu’r cystadlaethau o safon uchel, gyda’r hyfforddwyr dawns Lucy Kerrison a Kelci Francis yn rhoi help llaw yn ystod y dydd.
Diolch i bob un ohonyn nhw am eu cymorth a’u harbenigedd gan na fyddai’n bosibl cynnal digwyddiad o’r math hwn heb eu cyfraniad gwerthfawr.
Cafodd 48 o fedalau, 22 o dlysau a nifer o dystysgrifau eu cyflwyno, gan gynnwys gwobrau i berfformwyr eithriadol.
Roedd yr awyrgylch yn wych ac roedd hi’n hyfryd gweld y disgyblion yn cymryd rhan ac yn dangos eu creadigrwydd a’u sgiliau, gyda gwên ar eu hwynebau.
Cafodd y gystadleuaeth ddawns ar gyfer ysgolion uwchradd ei chynnal ddydd Iau, 29 Chwefror yng Nghanolfan Hamdden Hwlffordd.
Gwnaeth 77 o ferched o flynyddoedd ysgol 7-11 gystadlu mewn categorïau gwahanol fel timau, parau ac unigolion. Roedd y categorïau’n cynnwys dawnsio stryd, pob arddull, arddull rydd, jazz a chodi hwyl.
Finola a Kelly oedd y beirniaid, gyda chymorth Lucy a Kelci. Rhoddodd Kelci, un o gyn-ddisgyblion Ysgol Harri Tudur, berfformiadau anhygoel hefyd.
Roedd hi’n ddiwrnod gwych gydag awyrgylch ardderchog ac roedd hi’n rhoi boddhad mawr gweld cynifer o ferched yn cymryd rhan mewn chwaraeon ac yn mwynhau pob munud.
Mae rhai o’r ysgolion a gymerodd ran drwodd nawr i Gystadleuaeth Ddawns UDOIT yng Nghaerdydd.