English icon English
county hall river

Datganiad Cyngor Sir Penfro ynghylch RAAC

Pembrokeshire County Council statement regarding RAAC

Mae holl adeiladau corfforaethol Cyngor Sir Penfro (sy'n cynnwys eiddo Addysgol) yn cael eu harchwilio am ddiffygion er mwyn llywio gofynion cynnal a chadw yn y dyfodol.

Cynhaliwyd arolygon cyflwr ar ein holl adeiladau ysgol ac mae rhaglen arolwg cyflwr parhaus ar waith ar gyfer ein hadeiladau corfforaethol.

Hyd yn hyn, ni nodwyd unrhyw goncrid awtoclaf yn unrhyw un o'n heiddo.

Rydym yn gweithio'n agos gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i roi'r holl wybodaeth sydd ar gael iddynt am ein hadeiladau ysgol.