Swim gala - Gwyl nofio

Dathlu Llwyddiant Gala Nofio Anabledd Chwaraeon Sir Benfro fwyaf erioed

Record-breaking Sport Pembrokeshire Disability Swim Gala celebrates success

Rhannu:

Cynhaliwyd Gala Nofio Anabledd Chwaraeon Sir Benfro yng Nghanolfan Hamdden Abergwaun, wedi’i noddi gan Valero, ddydd Mawrth, 10 Mawrth, y fwyaf erioed.

Yn y digwyddiad eleni gwelwyd dros 85 o geisiadau i nofio, a chafwyd cyfranogiad brwdfrydig gan ysgolion cynradd ac uwchradd ledled y Sir, yn ogystal â cheisiadau gan glybiau nofio cymunedol - sy'n nodi cam cyffrous ymlaen mewn cydweithrediad ledled y sir.

Yn y gala, gwelwyd perfformiadau rhagorol gan nofwyr ifanc, llawer bellach wedi'u cyfeirio at Glwb Nofio Anabledd Puffins Sir Benfro a llwybrau datblygu nofio ehangach, gan helpu i feithrin talent leol a hyrwyddo ymgysylltu gydol oes mewn nofio, chwaraeon a gweithgarwch corfforol cynhwysol.  

Ymhlith y gwesteion yn y gala roedd Ben Davies-Thompson, Chwaraeon Anabledd Cymru, Amy Brumby, Nofio Cymru ac Alison Marsh, Nofio Sir Benfro.

Diolchodd Chwaraeon Sir Benfro a Hamdden Sir Benfro i'r holl gydlynwyr nofio a’r staff a sicrhaodd fod y digwyddiad yn rhedeg yn ddidrafferth.

Rhoddwyd cydnabyddiaeth arbennig hefyd i'r Llysgenhadon Ifanc o Ysgol Bro Gwaun, a roddodd gymorth gwerthfawr gyda chadw amser a chadw cofnodion drwy gydol y dydd.

O fudd pellach i’r digwyddiad oedd cael arbenigedd ac ymrwymiad hirsefydlog hoelion wyth Nofio Cymru, Ann, Bob a Carol. Gwnaeth eu gweinyddiaeth gyfrannu’n sylweddol at gynnal gala nofio broffesiynol.

Daeth cefnogaeth ychwanegol gan Angela Miles, Ymarferydd Llwybr Gweithgareddau Anabledd Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a John Havard, hyfforddwr nofio wedi ymddeol.

I ddathlu eu hymdrechion a'u cyflawniadau, derbyniodd yr holl gyfranogwyr fedal, gan atgyfnerthu ymrwymiad y digwyddiad i ddathlu cyfranogiad, cyflawniad personol, a chyfle cynhwysol.