
Niferoedd uchaf erioed yn dawnsio
Record numbers take to the dancefloor
Mae'r niferoedd uchaf erioed o bobl ifanc wedi cymryd rhan mewn digwyddiad Dawns Ysgolion gan Chwaraeon Sir Benfro.
Perfformiodd mwy na 220 o fechgyn a merched o ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Sir Benfro yng Nghanolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod ddydd Mawrth, 13 Ebrill.
Cafwyd unawdwyr a pherfformiadau grŵp mewn dawns stryd, telynegol a phob arddull, wedi'u cydlynu gan Finola Findlay o FF Dance a Kelly Williams (Ysgol Ddawns Kelly Williams).
Roedd llawer o dlysau (a roddwyd yn garedig gan Kelly Williams) a medalau am berfformiadau rhagorol ar y diwrnod. Derbyniodd yr holl gyfranogwyr dystysgrif hefyd.
Y beirniaid ar gyfer y digwyddiad oedd Fin, Kelly, Lucy a Kelci ac fe'i noddwyd gan Valero.
Ychwanegwyd cefnogaeth gan Llysgennad Ifanc Greenhill, Imogen Scourfield, hefyd ar y diwrnod.
Cysylltwch â Chwaraeon Sir Benfro i gael rhagor o wybodaeth am ysgolion dawns a chyfleoedd drwy Rominy.colville@pembrokeshire.gov.uk