Reg yn ei ddagrau wrth dderbyn gwobr am gefnogi plant y Gwasanaethau Arfog
Reg moved to tears by award for support of Armed Services children
Helpodd dathliad annisgwyl a drefnwyd gan ddisgyblion yn Ysgol Uwchradd WRh Hwlffordd i nodi cyflawniad arbennig i'r aelod staff poblogaidd Reg White ar ôl iddo gael ei gydnabod gyda gwobr genedlaethol am gefnogi plant o deuluoedd y Lluoedd Arfog.
Enwebwyd Mr White, Arweinydd Tîm yn yr ysgol, gan SSCE Cymru (Cefnogi Plant Milwyr mewn Addysg yng Nghymru) a dyfarnwyd Gwobr Efydd iddo yng nghategori Arwr Tawel yng Ngwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson 2026.
Mae Mr White wedi chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu cefnogaeth i blant y gwasanaethau, gan helpu i greu cyfleoedd sy'n magu hyder, gwydnwch ac ymdeimlad o berthyn ymhlith disgyblion o deuluoedd milwrol.
Mae ei wobr yn cydnabod yr effaith barhaol y mae wedi'i chael ar bobl ifanc, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach, gan ei wneud yn dderbynnydd teilwng o'r anrhydedd Arwr Tawel.
Gan gadw'r digwyddiad yn gyfrinachol oddi wrtho tan y funud olaf, croesawodd aelodau Clwb Bywyd Lluoedd yr ysgol Mr White gyda chymeradwyaeth wrth iddo gyrraedd dathliad te prynhawn.
Daeth y digwyddiad â disgyblion, partneriaid cymunedol, ysgolion cynradd lleol a chynrychiolwyr o sefydliadau sy'n cefnogi teuluoedd y Lluoedd Arfog ynghyd.
Dywedodd Joanna Wolfe, Swyddog Arweiniol Cyfranogiad SSCE Cymru: "Trwy ei ymrwymiad i gefnogi dysgwyr sy'n gysylltiedig â'r Lluoedd Arfog, mae Reg wedi cael effaith barhaol yn Ysgol Uwchradd WRh Hwlffordd a ledled Cymru.
“Rydym yn ddiolchgar am ei arweinyddiaeth, ei bartneriaeth a'i gefnogaeth barhaus i bobl ifanc. I ni, mae e’ wir yn Arwr Tawel.”
Yn ystod y digwyddiad, cyflwynwyd bathodyn pin Gwobr Efydd i Mr White, tystysgrif a llythyr wedi'i lofnodi gan Syr Michael Morpurgo. Roedd y dathliad hefyd yn cyd-daro â gweithgareddau sy'n nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog.
Dywedodd Mr White: "Roeddwn i’n teimlo embaras, yn ostyngedig ac yn falch iawn o gael fy enwebu ar gyfer y wobr hon.
“Mae pawb sy'n ymwneud â Phlant Milwrol yn Sir Benfro yn gweithio'n galed i wella eu bywydau a'u cyfleoedd.
“Rwy'n un o dîm mawr iawn ac yn derbyn y wobr ar ran ein holl ymdrechion cyfunol.
“Hoffwn hefyd ddiolch i Miranda Corcoran, Mentor Plant Gwasanaeth a Phlant Milwrol yn Ysgol Uwchradd WRh Hwlffordd am ddathliad mor wych. Yn llythrennol fe wnaeth ddod a dagrau i fy llygaid."
Pwysleisiwyd lefel y gefnogaeth y mae Mr White wedi'i roi i bobl ifanc gan sylwadau Lucie Higson, disgybl Blwyddyn 11 a ymwelodd yn ystod gwyliau arholiadau ar gyfer y digwyddiad,
Dywedodd Lucie: "I mi, nid clwb yn unig yw hwn, mae'n deulu. Rydyn ni i gyd wedi bod trwy brofiadau unigryw ac mae'r clwb hwn yn dod â ni at ein gilydd diolch i bobl fel chi. Mae wedi fy helpu i fod yn hyderus yn yr hyn rydw i'n ei wneud.”
Dywedodd Taylor Pemberthy, Llysgennad Disgyblion Gwasanaeth y Cyngor Ysgol: "Mae cael eich amgylchynu gan bobl sy'n rhannu heriau tebyg ac yn deall ei gilydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac mae ymroddiad a chefnogaeth Mr White wedi helpu i wneud y clwb yn rhan mor gadarnhaol a phwysig o'n bywydau.”
Fe wnaeth Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Simon Hancock, ganmol cyfraniad Mr White hefyd.
Dywedodd y Cynghorydd Hancock: "Mae Reg yn eiriolwr eithriadol dros blant milwrol, gan weithio'n ddiflino i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi a'u cynrychioli. Mae ei ymroddiad, ei angerdd a'i ymrwymiad yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau teuluoedd y Lluoedd Arfog, ac mae'n wych gweld ei ymdrechion yn cael eu cydnabod yn y modd hwn."
Ychwanegodd Miranda Corcoran, Mentor Plant Gwasanaeth yn Ysgol Uwchradd WRh Hwlffordd a'i hysgolion cynradd clwstwr: "Mae gwobr Reg yn haeddiannol iawn. Fel cyn-blentyn milwrol, cyn-filwr a rhiant plant milwrol, mae ganddo ddealltwriaeth unigryw o'r heriau sy'n wynebu teuluoedd y Lluoedd Arfog. Mae ei ymroddiad wedi helpu i greu ymdeimlad cryf o berthyn o fewn Clwb Bywyd Lluoedd ac wedi gwneud gwahaniaeth parhaol i fywydau ein disgyblion. Mae hefyd wedi bod yn gefnogaeth aruthrol i mi ers i mi ddechrau yn fy rôl yn gynharach eleni. Mae e’ wir yn arwr tawel.”
Roedd y digwyddiad hefyd yn dathlu cyflawniadau Llysgenhadon Disgyblion Gwasanaeth yr ysgol, a gyflwynodd siec am £1,500 i Barry John MBE o Oriel VC yn dilyn cyfres o weithgareddau codi arian llwyddiannus.