English icon English
Bus driver - Gyrrwr bws

Gwasanaethau Bysiau Arfordirol yr Haf yn Ôl

Return of summer coastal bus services

Bydd dau wasanaeth bws poblogaidd yn dychwelyd i arfordir Sir Benfro o ddydd Sadwrn yma, 24 Mai: 

  • Mae'r Pâl Gwibio (gwasanaeth 400, a weithredir gan Richards Bros) yn rhedeg rhwng Tyddewi a Marloes, trwy Aber-bach, Druidston, Sain Ffraid a Martins Haven (ar gyfer teithiau cwch i Ynys Sgomer).
  • Mae'r Gwibiwr Strwmbl (gwasanaeth 404, a weithredir gan Richards Bros) yn rhedeg ar hyd ffordd yr arfordir rhwng Tyddewi ac Abergwaun, gan gynnwys Abereiddi (ar gyfer y Morlyn Glas), Porthgain, a Phen Caer.
  • Bydd Gwibfws yr Arfordir (gwasanaeth 387/388, a weithredir gan Gyngor Sir Penfro) o amgylch penrhyn Angle hefyd yn dychwelyd i'w amserlen haf ar 25 Mai. Sylwer, bydd y gwasanaeth 388 cyntaf yn gadael gorsaf reilffordd Doc Penfro 10 munud ynghynt, am 8:20am.

    Bydd y tri gwasanaeth yn rhedeg bob dydd o ddydd Sadwrn 24 Mai tan ddydd Sul, 28 Medi 2025.

    Pembrokeshire Coastal Buses logo CYM

    Yn ogystal â hyn, bydd y Gwibiwr Celtaidd (gwasanaeth 403, a weithredir gan Sarah Bell) o amgylch penrhyn Tyddewi yn rhedeg amserlen well (pob hanner awr) yn ystod hanner tymor (dydd Sadwrn, 24 Mai i ddydd Sul, 1 Mehefin) a thrwy gydol Gorffennaf ac Awst.

    Mae'r gwasanaethau hyn wedi'u datblygu gan Bartneriaeth Ffyrdd Gwyrdd Sir Benfro gyda chyllid gan Gyngor Sir Penfro, Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

    Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro ar faterion Gwasanaethau Trigolion, "Mae ein gwasanaethau bysiau arfordirol yn rhan allweddol o'n rhwydwaith bysiau lleol, gan ei gwneud hi'n hawdd i bobl leol ac ymwelwyr fynd o gwmpas arfordir Sir Benfro heb orfod defnyddio car."

    Bydd gwasanaethau ychwanegol hefyd ar gael yn ardal Dinbych-y-pysgod eto'r haf hwn:

    Bydd Gwibiwr Dinbych-y-pysgod First Cymru, bws deulawr agored rhwng Dinbych-y-pysgod a Saundersfoot, yn dychwelyd, bob dydd, rhwng dydd Sul, 25 Mai a dydd Sadwrn, 6 Medi 2025. 

    Bydd Dyffryn Taf yn cyflwyno teithiau ychwanegol ar y gwasanaeth 351 rhwng Cilgeti a Dinbych-y-pysgod o ddydd Sadwrn, 19 Gorffennaf i ddydd Gwener, 12 Medi, gan gynnwys taith yn ôl ar ddydd Sul.

    Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau bysiau hyn a gwasanaethau bysiau eraill o amgylch Arfordir Penfro ar gael yn llyfryn amserlen newydd Bysiau Arfordirol 2025, fydd ar gael yn fuan o lyfrgelloedd lleol a chanolfannau gwybodaeth. I ofyn am gopi, cysylltwch â public.transport@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch 01437 764551.  

    Dylai teithwyr rheolaidd ar y gwasanaeth 381 rhwng Hwlffordd a Dinbych-y-pysgod hefyd sylwi bod mân newidiadau i'w cyflwyno o ddydd Llun, 2 Mehefin. 

    Bydd y gwasanaeth cyntaf o Ddinbych-y-pysgod yn gadael 10 munud yn gynharach am 07:27, gan gyrraedd Hwlffordd am 08:39.   

    Gellir lawrlwytho amserlenni bysiau o wefan y Cyngor: https://www.sir-benfro.gov.uk/llwybrau-bysiau-ac-amserlenni.