Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol yn Sir Benfro wedi’i Ddiwygio
Revised Allocations Policy for social housing in Pembrokeshire
Mae Cyngor Sir Penfro, mewn partneriaeth â chymdeithasau tai lleol, wedi cymeradwyo Polisi Dyrannu Cartrefi Dewisedig @ Sir Benfro newydd, sy'n amlinellu sut y bydd tai cymdeithasol yn cael eu dyrannu a sut y bydd ymgeiswyr yn cael eu blaenoriaethu yn ôl eu hangen am gartref a'r cysylltiad lleol â'r sir.
Mae'r polisi, fydd yn dod i rym ym mis Hydref 2026, wedi'i ddatblygu ar y cyd gan Gyngor Sir Penfro, ateb, Cymdeithasau Tai Wales & West, Barcud a Codi (Pobl gynt). Mae'n adlewyrchu pwysau cynyddol ar wasanaethau tai a digartrefedd, ynghyd â newidiadau diweddar yn neddfwriaeth tai Cymru.
Nod y polisi sydd wedi'i ddiweddaru yw parhau i ddarparu dull teg a chyson o ddyrannu tai cymdeithasol, gan sicrhau bod blaenoriaeth yn cael ei roi i'r rhai sydd â'r angen mwyaf a gwneud y defnydd gorau o'r stoc dai gyfyngedig.
O 1 Awst 2026, ni dderbynnir ceisiadau o dan y polisi presennol mwyach. Bydd ceisiadau newydd yn cael eu cynnal a'u hasesu o dan y polisi diwygiedig pan fydd yn weithredol.
Dros yr wythnosau nesaf, cysylltir â'r holl ymgeiswyr sydd ar y gofrestr dai ar hyn o bryd i egluro'r newidiadau i'r polisi dyrannu, a'r hyn y bydd angen iddynt ei wneud i aros ar y rhestr aros am dai cymdeithasol.
Ymateb i'r galw a newid deddfwriaethol
Mae'r galw am dai cymdeithasol yn Sir Benfro wedi cynyddu'n sylweddol, a mwy o aelwydydd yn wynebu digartrefedd, yn byw mewn llety dros dro, neu mewn amodau byw anaddas.
Ar yr un pryd, mae deddfwriaeth newydd, gan gynnwys Deddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) 2026, wedi ei gwneud yn ofynnol i gynghorau gryfhau prosesau dyrannu.
Mae'r polisi newydd yn cyflwyno meini prawf cliriach sy'n cwmpasu cymhwysedd, bandiau (A-D), anghenion meddygol a lles, gorboblogi, cysylltiad lleol, a mynediad at dai cyfyngedig o ran oedran, hygyrch a fforddiadwy. Mae hefyd yn atgyfnerthu mesurau diogelu i atal ymgeiswyr rhag cael blaenoriaeth annheg.
Cefnogi'r rhai hynny â’r angen mwyaf
Mae Cartrefi Dewisedig @ Sir Benfro yn gofrestr dai gyfunol, sy'n caniatáu i ymgeiswyr wneud cais am eiddo yn yr holl sefydliadau partner. Mae'r flaenoriaeth yn seiliedig ar angen a aseswyd, a Band A yn cynrychioli'r flaenoriaeth uchaf.
Mae'r polisi yn parhau i gefnogi grwpiau allweddol, gan gynnwys pobl sy'n ddigartref, y rhai mewn tai anaddas, unigolion ag anghenion meddygol neu anghenion symudedd, gofalwyr maeth a gofalwyr sy’n berthnasau, pobl hŷn, personél y lluoedd arfog a phobl sy'n gadael gofal. Mae hefyd yn cryfhau Cofrestr Tai Hygyrch Sir Benfro i wella’r broses o baru cartrefi sydd wedi'u haddasu â'r rhai sydd eu hangen fwyaf.
Dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, yr Aelod Cabinet dros Dai: "Mae sicrhau bod tai yn cael eu dyrannu mewn ffordd gyson a theg yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y rhai sydd â'r angen mwyaf am dai yn gallu cael mynediad at dai cymdeithasol.
“Rwy'n falch ein bod wedi gweithio'n agos gyda'n partneriaid cymdeithasau tai i gytuno ar y Polisi newydd hwn. Byddwn yn cynnal nifer o sesiynau galw heibio i drigolion lleol dros y misoedd nesaf, ac edrychaf ymlaen at fynychu'r rhain.”
Rhagor o wybodaeth
Gwnewch gais ar-lein neu edrychwch ar y Cwestiynau Cyffredin yn www.choicehomespembrokeshire.org
Am gymorth a chefnogaeth bellach cysylltwch â'r Tîm Cymorth Tai ar 01437 764551 neu housing@pembrokeshire.gov.uk.