English icon English
llinellau rhyng-gysylltiedig â phobl

Rhwydwaith Gwledig a Rennir yn Hybu Signal Ffôn Symudol yn Sir Benfro i 84%

Shared Rural Network Boosts Mobile Coverage in Pembrokeshire to 84%

Mae'r Rhwydwaith Gwledig a Rennir (SRN) wedi gwella'n sylweddol y signal ffôn symudol gan bob un o bedwar Gweithredwr Rhwydwaith Symudol y DU yn Sir Benfro, gan ei gynyddu i 84% yn ôl data diweddaraf adroddiad Cenhedloedd Cysylltiedig 2024 Ofcom.

Ymdrech ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU a'r Gweithredwyr Rhwydwaith Symudol yw SRN, a'i nod yw ymestyn signal symudol ledled ardaloedd gwledig, gan sicrhau bod mynediad i gysylltedd symudol dibynadwy gan gymunedau a busnesau. Mae'r fenter hon yn rhan o ymrwymiad ehangach i wella seilwaith digidol a phontio'r bwlch sy'n bodoli rhwng ardaloedd trefol a gwledig o ran cysylltedd.

Mae adroddiad diweddar Cenhedloedd Cysylltiedig Ofcom yn tynnu sylw at y cynnydd sylweddol a wnaed yn Sir Benfro, lle mae signal ffôn symudol gan y pedwar gweithredwr wedi gweld gwelliant nodedig o 74% i 84%, gan roi mwy o ddewis a gwerth i gwsmeriaid. Mae'r cyflawniad hwn yn tanlinellu effeithiolrwydd y Rhwydwaith Gwledig a Rennir ers ei gyflwyno ym mis Mehefin 2024 a thrwy gyflawni ei addewid i wella cysylltedd mewn rhannau gwledig o'r DU.  Mae hyn yn cyfateb i 106 milltir sgwâr arall o signal 4G, ac mae signal gan un Gweithredwr Rhwydwaith Symudol hefyd wedi gwella o 97% i 99%.  Mae hyn yn lleihau'r ardaloedd yn y sir heb unrhyw signal o gwbl o 3% i 1%. 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Miller o Gyngor Sir Penfro: 

"Mae hwn yn hwb cadarnhaol i'n cymunedau gwledig, lle gall gosod seilwaith digidol fod yn heriol dros ben.  Mae cael signal digonol yn golygu y gall pobl weithio, byw a ffynnu yng nghymdeithas ddigidol ein byd ni heddiw, yn hytrach na chael eu gadael ar ôl."

Mae llwyddiant SRN yn Sir Benfro yn rhan o ymdrech genedlaethol i ddarparu signal data a llais o ansawdd da i 88% o dirfas y DU erbyn Mehefin 2024 a 90% erbyn Ionawr 2027. Disgwylir i'r fenter hon ddod â manteision economaidd a chymdeithasol sylweddol i ardaloedd gwledig, wrth wella'r cysylltedd a chefnogi economïau lleol.

I gael rhagor o wybodaeth am gysylltedd symudol yn eich ardal chi, gallwch gysylltu â Hyrwyddwyr Digidol Sir Benfro.  Wedi'i ariannu gan Raglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe, mae'r Hyrwyddwyr Digidol yn parhau i weithio'n agos gyda'r Gweithredwyr Rhwydwaith Symudol a'u partneriaid i sicrhau bod cymunedau gwledig yn cael y signal symudol mae ei angen arnynt i aros mewn cysylltiad.