English icon English
Tenby Harbour - Harbwr Dinbych-y-pysgod cropped

Rhybudd am beryglon neidio i’r dŵr cyn tywydd da

Warning of tombstoning dangers ahead of good weather

Mae rhybudd aml-asiantaeth o beryglon neidio i mewn i Harbwr Dinbych-y-pysgod yn cael ei gyhoeddi yn dilyn yr effaith gynyddol ar wasanaethau yn gynharach y mis hwn.

Yn gynharach y mis hwn, gwnaeth grwpiau mawr ymgasglu yn yr harbwr i neidio i'r môr, a dioddefodd dau berson ifanc esgyrn wedi torri. Mae risg ddifrifol hefyd o anafiadau gan gychod yn symud trwy'r harbwr prysur.

Mae Gwylwyr y Glannau a'r RNLI yn atgoffa pawb bod neidio o uchder i'r môr—yn enwedig yn ymyl cychod sy'n gweithio—yn hynod beryglus a gall gael canlyniadau difrifol.

Neidio i’r Dŵr o Uchder:

  • Gall neidio i mewn i ddŵr o uchder (e.e., o greigiau neu bier) achosi anaf difrifol neu farwolaeth os byddwch yn camgymryd dyfnder y dŵr neu'n glanio’n lletchwith.
  • Gwelededd - ni allwch bob amser weld beth sydd o dan y dŵr. Mae creigiau cudd a newidiadau sydyn mewn dyfnder yn gyffredin.
  • Sioc Dŵr Oer – wrth fynd i mewn i'r dŵr am y tro cyntaf, gall pobl ddioddef sioc dŵr oer sy'n ei gwneud hi'n anodd nofio ac anadlu.
  • Gall ceryntau cryf eich ysgubo i ffwrdd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trigolion, y Cynghorydd Rhys Sinnett: "Er y gall ymddangos yn gyffrous, mae'n bwysig cofio y gall y gweithgaredd hwn fod yn hynod beryglus a gall arwain at anafiadau difrifol.

“Parchwch y dŵr a dewiswch ffyrdd mwy diogel o fwynhau ein tref hardd.”