Rhybudd i berchnogion ceffylau wrth i ffliw ceffylau gynyddu ledled y DU
Warning to horse owners as equine influenza rise across UK
Mae perchnogion ceffylau, pobl sy’n cadw ceffylau, a gweithwyr milfeddygol proffesiynol yn cael eu hannog i gymryd camau rhagofalus ar unwaith yn dilyn cynnydd sylweddol mewn gweithgarwch Ffliw Ceffylau ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig ehangach.
Mae ffliw ceffylau yn heintus iawn a gall ledaenu'n gyflym ymhlith ceffylau, gan gynnwys trwy'r aer a dros bellter eang a dyna pam mae'n bwysig cymryd camau priodol i leihau'r risg o drosglwyddo.
Mae'r tîm Gwyliadwriaeth Clefydau Heintus Ceffylau (EIDS) wedi cadarnhau, ar 14 Mai 2026, bod 52 o achosion o ffliw ceffylau wedi bod ar draws 32 sir yng Nghymru, Lloegr a'r Alban ers 1 Ebrill 2026.
Er bod llawer o achosion yn gysylltiedig â symud ceffylau o le i le, gall y feirws ledaenu dros sawl cilomedr o dan amodau amgylcheddol penodol. Mae hyn yn golygu y gallai adeiladau lle nad oes ceffylau wedi’u symud yn ddiweddar fod mewn perygl, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae achosion lleol o’r ffliw wedi'i nodi.
Cynghorir yn gryf bod perchnogion ceffylau, rheolwyr iardiau, a gweithwyr milfeddygol proffesiynol yn mabwysiadu dull sy'n seiliedig ar risg wrth ystyried symud ceffylau ac arferion rheoli dyddiol.
Mae mesurau ataliol allweddol yn cynnwys:
- Sicrhau bod brechiadau'n gyfredol.
- Monitro ar gyfer arwyddion clinigol cynnar fel peswch, hylif o’r trwyn, twymyn, a llesgedd.
- Gweithredu mesurau bioddiogelwch llym.
- Ynysu ceffylau sydd newydd gyrraedd a rhai yr amheuir bod ganddynt y ffliw yn brydlon.
Mae'r cynnydd hwn mewn gweithgarwch ffliw ceffylau yn peri risg sylweddol a pharhaus i iechyd ceffylau a gweithgareddau marchogaeth ledled y DU.
Mae brechu, bod yn wyliadwrus, a gweithredu mesurau bioddiogelwch cadarn yn parhau i fod yn hanfodol i gyfyngu ar ledaeniad pellach.
Am ragor o wybodaeth a chyngor ewch i www.equinesurveillance.org