English icon English
Service pupil support-2

Rôl newydd a ddarperir gan Gynllun Gwarantu Cyfweliad ar gyfer y Lluoedd Arfog

New role served by Armed Forces Guaranteed Interview Scheme

Mae ymrwymiad Cyngor Sir Penfro i’w Wobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn yn cynnwys ei Gynllun Gwarantu Cyfweliad i gyn-filwyr, a lansiwyd ym mis Mawrth 2024.

Bydd yr unigolyn diweddaraf i gael ei benodi drwy’r cynllun yn cefnogi disgyblion ysgolion plant y lluoedd arfog yn uniongyrchol diolch i grant gan Ymddiriedolaeth Cyfamod y Lluoedd Arfog.

Mae Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd wedi penodi Mentor Plant y Lluoedd Arfog ar gyfer yr ysgol uwchradd a’i chlwstwr ysgolion cynradd.

Roedd pump o’r 23 ymgeisydd yn cael gwarantu cyfweliad am y swydd newydd oherwydd eu statws fel cyn-filwyr neu briod a phartneriaid milwyr.

Dywedodd Miranda Corcoran, yr ymgeisydd llwyddiannus sydd wedi’i lleoli yng Nghyprus ar hyn o bryd: “Dyma’r tro cyntaf mewn ugain mlynedd i mi allu cael swydd cyn cyrraedd lleoliad newydd. Mae’r Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn bolisi ‘sy’n ystyriol o’r lluoedd arfog’ sy’n hwyluso’r pontio i gyflogaeth yn sylweddol i ŵyr a gwragedd aelodau o’r lluoedd arfog wrth symud gyda’u teuluoedd i leoliad newydd.”

Dywedodd Reg White o Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd: “Mae’r garfan fwyaf o blant y lluoedd arfog yng Nghymru gennym yn ein hysgol a’n clwstwr. Bydd penodi Mentor Plant y Lluoedd Arfog yn cael effaith sylweddol ar lesiant y plant, yn enwedig y rhai sydd mewn ysgolion â niferoedd isel iawn o blant y lluoedd arfog.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth Cyfamod y Lluoedd Arfog am ddarparu’r cyllid ac i Gyngor Sir Penfro am gefnogi’n weithredol y broses o gyflogi personél y lluoedd arfog a’u priod o fewn y sir.”

Ers cyflwyno’r Cynllun Gwarantu Cyfweliad yng Nghyngor Sir Penfro, mae 199 o gyn-filwyr Lluoedd Arfog y DU a’u priod neu bartneriaid wedi cael eu cyf-weld ar gyfer gwahanol rolau, a 38 wedi’u penodi’n llwyddiannus – cyfradd benodi o tua 20%.

Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun ar gael ar ein gwefan.

Ychwanegodd y Cynghorydd Simon Hancock, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ar gyfer Cyngor Sir Penfro: “Mae Sir Benfro yn falch o gefnogi ein cymuned lluoedd arfog, ac mae’r penodiad hwn yn enghraifft ddisglair o sut mae ein polisïau fel y Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.”

I gael rhagor o wybodaeth am Gyfamod y Lluoedd Arfog, ewch i Gynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn - GOV.UK