English icon English
Ysgol Greenhill cropped

Llwyth o rediadau a wicedi mewn twrnameintiau criced i ferched

Runs and wickets galore at girls cricket tournaments

Cymerodd mwy na 150 o ferched o wyth ysgol leol ran ym Mhencampwriaeth Criced Dan Do Genedlaethol yr ECB dros y mis diwethaf.

Cynhaliwyd yr ŵyl griced yng Nghanolfan Hamdden Meads yn Aberdaugleddau a diolchir i'r staff am gynnal y digwyddiad.

Yr ysgolion fu’n cymryd rhan oedd Ysgol Bro Gwaun, Ysgol Caer Elen; Ysgol Greenhill, Ysgol Harri Tudur, Ysgol Uwchradd Hwlffordd, Ysgol Gyfun Aberdaugleddau ac Ysgol Uwchradd Redhill.

Yn y grŵp oedran dan 13 oed, llwyddodd Aberdaugleddau i drechu Ysgol Harri Tudur er mwyn ennill tra bu Ysgol Greenhill yn fuddugol yn erbyn Ysgol Harri Tudur i hawlio'r fuddugoliaeth ar lefel Dan 15.

Milford Haven School - Ysgol Aberdaugleddau

Aeth y ddwy ysgol ymlaen i gynrychioli Sir Benfro yn Rowndiau Terfynol De Cymru ym Mhrifysgol Abertawe.

Dywedodd Martin Jones, Swyddog Datblygu Criced yn Chwaraeon Sir Benfro: "Chwaraewyd criced rhagorol mewn modd cystadleuol ond parchus gan bawb oedd yno. Roedd y merched yn glod i’w hunain a'u hysgolion. Diolch hefyd i Stephen Thornton o Valero Energy sy'n noddi'r Gystadleuaeth."

Yn y rowndiau terfynol yn Abertawe roedd y safon yn uchel iawn gyda'r ddwy ysgol yn mwynhau eu hunain yn cystadlu ar lefel uwch. Rhoddodd y ddwy ochr 100% ond collwyd y cyfle i fynd i’r rowndiau cynderfynol o drwch blewyn.