Ysgol Gynradd Saundersfoot yn cael ei chanmol am ei hethos meithringar, gwaith tîm cryf y staff a’i ffocws ar lesiant disgyblion
Saundersfoot C.P. School praised for nurturing ethos, strong staff teamwork and focus on pupil wellbeing
Mae Ysgol Gynradd Saundersfoot wedi derbyn cydnabyddiaeth gadarnhaol gan Estyn yn dilyn arolygiad ym mis Mawrth 2026, gydag arolygwyr yn tynnu sylw at ddiwylliant meithringar cryf yr ysgol, arweinyddiaeth effeithiol a chefnogaeth o ansawdd uchel a ddarperir gan staff.
Mae’r adroddiad yn disgrifio’r ysgol fel "cymuned gynhwysol a meithringar lle mae disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi", gan nodi bod disgyblion yn elwa o amgylcheddau dysgu digynnwrf a diogel a pherthnasoedd cryf a chadarnhaol â staff.
Canmolodd yr arolygwyr bwyslais clir yr ysgol ar lesiant, gan ddatgan bod arweinwyr yn rhoi datblygiad emosiynol a chymdeithasol disgyblion wrth wraidd gwaith yr ysgol.
Cydnabu Estyn ymroddiad a phroffesiynoldeb staff ar draws yr ysgol, gan dynnu sylw at gydweithio effeithiol rhwng athrawon a staff cymorth a disgrifio’r tîm cynorthwywyr addysgu fel un "hynod fedrus".
Nododd arolygwyr fod y gwaith tîm hwn yn chwarae rhan arwyddocaol wrth sicrhau bod disgyblion, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, yn derbyn cymorth wedi’i dargedu ac yn gwneud cynnydd da.
Roedd yr adroddiad hefyd yn canmol diwylliant gofal cryf yr ysgol, trefniadau diogelu cadarn a phartneriaethau effeithiol â rhieni, llywodraethwyr ac asiantaethau allanol.
Er bod Estyn yn cytuno â meysydd yr ysgol ar gyfer datblygiad pellach, gan gynnwys dysgu yn yr awyr agored a phresenoldeb, mae’r adroddiad yn cadarnhau bod gan yr ysgol sylfaen gadarn sydd wedi’i hadeiladu ar berthnasoedd o ansawdd uchel, staff ymroddedig ac ethos cryf sy’n cael ei arwain gan lesiant.
Dywedodd y Pennaeth Nick Allan: “Yn Ysgol Gynradd Saundersfoot, mae llesiant yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydym yn falch bod Estyn wedi cydnabod yr amgylchedd digynnwrf, meithringar y mae ein staff yn ei greu, lle mae plant yn teimlo’n ddiogel, yn hyderus ac yn barod i ddysgu.
“Mae perthnasoedd cryf wrth wraidd ein hysgol. Mae adnabod ein disgyblion yn dda fel unigolion yn ein galluogi i gefnogi nid yn unig eu cynnydd academaidd, ond eu datblygiad emosiynol a chymdeithasol hefyd.
“Mae hyn yn rhan annatod o ethos a gwerthoedd yr ysgol. Rwy’n falch o arwain tîm mor ymroddedig sy’n gwneud gwahaniaeth ystyrlon i ddysgu a llesiant disgyblion yma yn Saundersfoot.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Guy Woodham, Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, 'Mae hi bob amser yn hynod braf pan fydd un o'n hysgolion yn derbyn cydnabyddiaeth gadarnhaol gan Estyn. Nid yw cydnabyddiaeth o'r fath yn digwydd yn hawdd ac mae'n benllanw misoedd a blynyddoedd o waith caled gan bawb sy'n ymwneud â'r ysgol.
“Rwy’n llongyfarch ac yn diolch felly i’r Pennaeth, y staff a phawb sydd wedi gwneud y llwyddiant hwn yn bosibl - da iawn chi.”