English icon English
Blue Peter 1 cropped

Disgyblion Saundersfoot yn cael prif rôl yn rhaglen deledu Blue Peter

Saundersfoot pupils take starring role in TV’s Blue Peter

Yr wythnos hon, bydd disgyblion o Ysgol Gynradd Gymunedol Saundersfoot yn ymddangos ar Blue Peter, y sioe deledu hynaf yn y byd i blant.

Bu’r plant yn ffilmio gyda’r cyflwynydd newydd, Shini Muthukrishnan yn Fferm Folly ar gyfer cyfres o ddarnau ar Glwb Llyfrau Blue Peter, a fydd yn cael eu darlledu ar CBBC ac iPlayer ddydd Gwener, 9 Chwefror am 5pm.

Bydd y disgyblion yn dangos eu gwybodaeth a’u doniau wrth drafod eu barn ar y llyfr Poems Aloud gan Joseph Coelho.

Byddant hefyd yn trafod y ffaith ei bod yn bwysig i bobl ifanc godi llais a lleisio’u barn.

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Gymunedol Saundersfoot, Nick Allen: "Rydym ni’n falch iawn o weld ein myfyrwyr yn cael eu cydnabod ar lwyfan cenedlaethol fel Blue Peter. Mae’n dangos eu creadigrwydd, eu hawch i ddysgu a’r amgylchedd cefnogol rydym ni’n ei feithrin yn Saundersfoot. Rydym ni’n credu y bydd y profiad hwn yn ysbrydoli ein disgyblion i ddilyn eu diddordebau â phenderfyniad a brwdfrydedd.”

Dywedodd Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Guy Woodham, ei fod yn edrych ymlaen yn fawr at wylio’r rhaglen.

Ychwanegodd: “Llongyfarchiadau enfawr i ddisgyblion Ysgol Gynradd Gymunedol  Saundersfoot a fydd yn ymddangos ar Blue Peter yr wythnos hon. Mae’n gyfle mor gyffrous i bawb sy’n gysylltiedig. Mae Blue Peter yn un o’r rhaglenni enwocaf erioed ar deledu Prydeinig, felly rwy’n eithriadol o falch y bydd y bobl ifanc hyn yn cynrychioli eu hysgol a Sir Benfro.”

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Sir Penfro, Steven Richards-Downes: “Mae’n gydnabyddiaeth wych fod doniau’r bobl ifanc o Ysgol Gynradd Gymunedol  Saundersfoot yn ymddangos ar Blue Peter. Mae hefyd yn dweud cyfrolau am lefel yr addysgu a’r addysg sy’n cael ei chynnig gan yr ysgol. Rwy’n gwybod y bydd yr holl athrawon, ffrindiau a theulu yn eich gwylio ar y teledu, ac yn hynod falch.”

Gellir gweld disgyblion Ysgol Gynradd Gymunedol Saundersfoot am 5pm ddydd Gwener, 9 Chwefror ar CBBC neu ar BBC iPlayer.