Ysgol yn cipio gwobr ar ôl haf o Hwyl a Bwyd
School scoops award after a summer of Food and Fun
Mae Ysgol Gymunedol Neyland wedi ennill Gwobr Llywodraeth Cymru am ei gwaith ar Bwyd a Hwyl – Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf, gan gadw plant yn egnïol, yn frwdfrydig ac yn cael eu maethu dros yr haf.
Cynhaliwyd Gwobrau Dathlu 10 Mlynedd Bwyd a Hwyl ar 6 Tachwedd i gydnabod cyfraniadau rhagorol a wnaed gan unigolion, cydweithrediadau a phartneriaethau, ysgolion a byrddau iechyd wrth ddod â Bwyd a Hwyl yn fyw i gymaint o blant a theuluoedd.
Mae’r rhaglen Bwyd a Hwyl yn darparu prydau bwyd iach sy’n rhad ac am ddim i blant a phobl ifanc yn ystod gwyliau’r ysgol i gefnogi llesiant a lleihau tlodi bwyd yn ystod y gwyliau ynghyd â chyflwyno addysg anffurfiol a gweithgareddau hwyliog.
Derbyniodd Ysgol Gymunedol Neyland wobr Gweithio Gyda’n Gilydd, a gyflwynwyd gan Sharon Davies, Prif Swyddog Addysg, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Roedd y panel yn ystyried bod Neyland yn enghraifft ddisglair o’r hyn y gellir ei gyflawni pan gymerir dull ysgol gyfan.
Roedd y tîm cyfan ar draws cyfnodau’r ysgol yn cydweithio gyda gweledigaeth gyffredin i gefnogi, ymgysylltu a chodi calon disgyblion yn ystod gwyliau’r haf.
Yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae’r cynllun wedi datblygu ac mae rhieni, gofalwyr a disgyblion fel ei gilydd wedi ymateb yn frwdfrydig ac yn ddiolchgar am y parhad, y gofal a’r cyfoethogiad a ddarperir. Mae’r effaith yn real, yn barhaol ac yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan y Pennaeth, Clare Hewitt.
Dywedodd Clare: “Yn ystod ein blwyddyn gyntaf, croesawon ni 40 o ddisgyblion i gymryd rhan yn y rhaglen, yn ein hail flwyddyn cododd hyn i 60, ac yr haf hwn roedden ni’n falch o gyflwyno’r cynllun i 80 o ddisgyblion — gan gynnwys plant o’n darpariaeth Canolfan Adnoddau Dysgu sydd newydd ei sefydlu.
“Mae’r twf hwn yn dweud llawer am boblogrwydd y rhaglen ac yn dangos gymaint mae ein cymuned yn ymddiried ynddi.
“Mae’r paratoi’n dechrau ymhell cyn gwyliau’r haf. Mae ein tîm ymroddedig yn cynllunio amserlen o weithgareddau cyffrous ac amrywiol sydd wedi’u cynllunio i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw, llesiant corfforol, rhyngweithio cymdeithasol ac, wrth gwrs, hwyl. Mae pob aelod o staff yn cyfrannu eu syniadau, eu sgiliau a’u hamser i greu amgylchedd diogel a chroesawgar - gan roi o’u hamser eu hunain i sicrhau bod disgyblion yn parhau i gael cefnogaeth o ansawdd uchel.
“Rydym yn hynod falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni. Mae’r cynnydd cyson mewn cyfranogiad, ymestyn y cynllun i gynnwys disgyblion o’r Ganolfan Adnoddau Dysgu, a chefnogaeth barhaus ein cymuned ehangach i gyd yn tynnu sylw at gryfder a llwyddiant y ddarpariaeth hon. Mae ein staff wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyl, ac mae’n deg iawn bod eu hymroddiad yn cael ei gydnabod.”
Estynnodd y cynghorydd Guy Woodham, Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg ei longyfarchiadu i’r ysgol ar ennill y wobr hon.
Dywedodd y Cynghorydd Woodham, “Mae’r wobr hon yn dyst i’r ymroddiad a’r gwaith tîm yn Ysgol Gymunedol Neyland. Nid yn unig y mae’r rhaglen Bwyd a Hwyl yn mynd i’r afael â thlodi bwyd yn ystod y gwyliau ond mae hefyd yn cyfoethogi bywydau plant a theuluoedd ledled Sir Benfro.
Mae mentrau fel hyn yn dangos pŵer cydweithio wrth greu cymunedau iachach a hapusach, ac rwy’n falch o weld Neyland yn arwain y ffordd.
“Mae Cyngor Sir Penfro yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi ac ehangu rhaglenni fel Bwyd a Hwyl fel y gall hyd yn oed mwy o blant elwa yn y dyfodol.”
Ar hyn o bryd mae saith ysgol gynradd yn Sir Benfro yn rhan o’r rhaglen Bwyd a Hwyl, pob un yn nodi effaith sylweddol ar lesiant eu disgyblion.
Am ragor o wybodaeth am raglen Bwyd a Hwyl haf 2026 cysylltwch â Rominy.coville@pembrokeshire.gov.uk
Nodiadau i olygyddion
Pennawd: Enillodd Ysgol Gymunedol Neyland wobr am ei rhaglen Bwyd a Hwyl.