English icon English
Bus driver - Gyrrwr bws

Lansio ymgynghoriad Polisi Cludiant Ysgol

School Transport Policy consultation launched

Mae Cyngor Sir Penfro wedi lansio ymgynghoriad polisi cludiant ysgol ac mae'n gofyn am adborth gan y cyhoedd.

Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn darparu cludiant i'r ysgol/coleg i fwy na 4500 o ddysgwyr cymwys bob dydd, ar gost o fwy na £8 miliwn y flwyddyn.

Byddem yn croesawu barn y cyhoedd ar ein Polisi Cludiant Ysgol yn rhan o adolygiad ehangach o'r ddarpariaeth cludiant ysgol yn Sir Benfro.

Er nad oes unrhyw gynigion penodol ar gyfer newid ar hyn o bryd, bydd eich barn yn helpu i lunio darpariaeth yn y dyfodol.

Bydd angen i unrhyw newidiadau i'r polisi fod yn bosib eu cyflwyno ac yn fforddiadwy yng nghyd-destun prinder gyrwyr a'r pwysau ariannol sy'n wynebu'r Cyngor.

Bydd unrhyw newidiadau i'r polisi yn dilyn yr adolygiad yn berthnasol o fis Medi 2026 ymlaen.

Cwblhewch yr arolwg erbyn dydd Sul 18 Mai 2025: https://www.sir-benfro.gov.uk/dweud-eich-dweud/ymgynghoriad-polisi-cludiant-ysgol

Os hoffech gael copi papur, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Cwsmeriaid ar 01437 764551 neu e-bostiwch school.transport@pembrokeshire.gov.uk