English icon English
Delwedd cartŵn gyda dyn a menyw ffôn blwch tic pensil

Sesiynau galw heibio cyhoeddus Saundersfoot yn lansio ymgynghoriad teithio llesol

Saundersfoot public drop-in sessions launch Active Travel consultation

Mae angen mewnbwn gan y cyhoedd ar gyfer cynnig tair rhan i wella mynediad i gerddwyr a beicwyr yn Saundersfoot.

Mae Cyngor Sir Penfro yn ymgynghori ar gynlluniau teithio llesol ar gyfer y pentref sy'n canolbwyntio ar Stammers Road, Sandy Hill Road a Frances Road.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys creu llwybrau cyd-ddefnyddio ar gyfer cerddwyr a beicwyr ynghyd â mesurau gostegu traffig, mannau croesi a throedffyrdd ehangach i wella llwybrau o'r harbwr, yr A478 a thraeth Coppet Hall.

Cynhelir sesiynau galw heibio cyhoeddus ar 19 Tachwedd, yn yr Adeilad Glo, Harbwr Saundersfoot, rhwng 10am a 12pm, 1pm a 4pm, a 6.30pm ac 8pm.

Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Penfro yn bresennol yn y sesiynau i ateb unrhyw gwestiynau sy’n codi.

Yn dilyn y digwyddiad undydd hwn, bydd arolwg cyhoeddus ar gael ar-lein ar gyfer y bobl hynny nad ydynt yn gallu bod yn bresennol wyneb yn wyneb. Mae modd dod o hyd i’r arolwg yma: https://www.sir-benfro.gov.uk/dweud-eich-dweud/ymgynghoriadau

Bydd yr arolwg ar-lein yn parhau i fod ar gael am bedair wythnos, ac yn cau ar 17 Rhagfyr 2024.

Bu'n rhaid canslo'r dyddiad gwreiddiol ar gyfer lansio'r ymgynghoriad (5 Tachwedd) oherwydd materion technegol. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra a achoswyd.